/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Mark Williams yn yr ysbyty gyda phoenau yn ei frest

  • Cyhoeddwyd
Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pencampwr snwcer y byd, Mark Williams yn dweud ei fod wedi mynd i'r ysbyty gyda phoenau yn ei frest yng nghanol ei gêm yn ail rownd Pencampwriaeth y Byd yn Sheffield.

Dywedodd y Cymro 44 oed ei fod wedi mynd i'r ysbyty ar ôl sesiwn agoriadol ei gêm yn erbyn David Gilbert, gyda Gilbert ar y blaen o 5-3.

Fe wnaeth Williams drydar yn dweud nad oedd yn gallu delio â'r boen a'i fod felly wedi mynd i uned frys.

"Yn ffodus, doedd 'na ddim mwy o fframiau i'w chwarae," meddai.

Mae'r gêm i fod i ailddechrau am 10:00 fore Sadwrn.