Murluniau arbennig sy'n annog balchder lleol
- Cyhoeddwyd

Disgyblion Ysgol Dewi Sant gyda'r murlun yn Y Rhyl
Mae tri murlun arbennig wedi ymddangos yn Nhreorci, Aberteifi a'r Rhyl yn ddiweddar i nodi Awr Ddaear 2021.
Dyma brosiect ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru, ble'r aeth Bardd Plant Cymru ati i ysgrifennu cerddi ar y cyd gyda chriw o ddisgyblion o bob ardal.
Mae'r cerddi, sy'n cwmpasu teimladau'r plant am eu hardaloedd, ynghyd â phwysigrwydd diogelu'r blaned, nawr ar gof a chadw ar waliau tri adeilad cyhoeddus yn y trefi, diolch i'r artist Bryce Davies o Peaceful Progress.


Y murlun a gafodd ei gyd-ysgrifennu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi sydd ar wal ar Stryd Priory, Aberteifi
Cydweithiodd Bardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Treorci, Ysgol Gynradd Aberteifi ac Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl, mewn gweithdai dros y we i ddechrau casglu syniadau er mwyn ysgrifennu cerddi a fyddai'n berthnasol i'r plant.
Ac ar ôl poeni fod Zoom yn gallu bod yn 'gyfrwng eitha marwaidd', cafodd Gruffudd siom ar yr ochr orau, meddai.
Gruffudd Owen a phlant tair ysgol wahanol sy'n sôn am y prosiect celfyddydol difyr.
"Mi weithiodd o'n dda. Mi gawson ni un sesiwn lle oedden ni'n dysgu am gadwraeth, a beth sydd yn bwysig o ran iechyd y blaned. Cychwyn drwy ofyn cwestiynau eitha' syml, 'pam ydych chi'n licio byw lle ydych chi'n byw">