'Dylai pobl sydd wedi lladd a stelcio fyw mewn parthau cyfyngedig'

Dywedodd Rhianon Bragg ei bod yn teimlo'n "gaeth" pan gafodd ei stelciwr ei ryddhau o'r carchar
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl sydd wedi cyflawni troseddau llofruddiaeth, dynladdiad neu stelcio gael eu gorfodi i fyw mewn ardaloedd cyfyngedig ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar ar drwydded, meddai ymgyrchwyr.
Dywed Rhianon Bragg, o Wynedd, ei bod yn teimlo'n "gaeth" ar ôl i'w stelciwr gael ei ryddhau o'r carchar yn amodol - doedd ganddo ddim hawl i fynd i bedair sir o gwmpas ei chartref.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yr hyn sy'n cael ei alw yn barthau gwahardd yn atal troseddwyr rhag mynd at ddioddefwyr.
Mae Ms Bragg yn rhan o grŵp o ddioddefwyr sy'n dweud y dylai cyn-garcharorion "risg uchel" fod ond yn gallu byw, gweithio a theithio mewn ardaloedd penodol o'r DU am weddill eu hoes.
Mae rhai arbenigwyr yn poeni y gallai dull o'r fath fod yn gyfystyr â mynd yn groes i hawliau dynol troseddwyr.

Cafodd Rhianon Bragg ei dal yn wystl a'i bygwth gan ei chyn-bartner gyda gwn
Cafodd Ms Bragg, o Rosgadfan, ei stelcian, ei chadw yn wystl ac yna'i bygwth â gwn am oriau gan ei chyn-bartner Gareth Wyn Jones yn 2019.
Cafodd Jones ei garcharu am bedair blynedd a hanner yn 2020 a'i ryddhau'n ddiweddarach ar drwydded ym mis Chwefror 2024.
Mae bod ar drwydded yn golygu bod person yn dal i gael dedfryd o garchar ond yn gallu byw yn y gymuned dan amodau llym.
Ni chafodd Jones fynd i'r pedair sir o amgylch cartref Ms Bragg am gyfnod o bum mlynedd, ond dywedodd Ms Bragg ei bod wedi dechrau teimlo'n "gaeth".
'Dim rhyddid bellach'
"Doedd yna ddim rhyddid bellach, ddim mewn gwirionedd," meddai.
"Efallai ei bod yn swnio yn ardal fawr, ond mater o amser oedd hi.
"Ro'n i'n poeni am deithio a stopio mewn man gwasanaethau rhag ofn y gallai fod yno.
"Roedd bod y tu allan i'r parth diogelwch yn teimlo fel risg go iawn, ac ni ddylai fod felly."
Daeth Ms Bragg i wybod yn ddiweddar fod Jones wedi marw.
"Y bore ar ôl i mi gael y newyddion yna, doeddwn i ddim yn gallu gweithio allan beth oeddwn i'n ei deimlo, doeddwn i ddim yn gallu rhoi enw arno," meddai.
"Roedd yn deimlad gwahanol, anghyfarwydd ac yna 'nes i feddwl yn sydyn, 'dyna yw rhyddid'
"Mae dioddefwyr wedi bod trwy ddigon yn barod, fe ddylen ni i gyd gael y profiad o deimlo'n rhydd."

Mae Emma King a Carole Gould hefyd eisiau gweld rhai troseddwyr yn cael eu gorfodi i fyw a gweithio mewn parthau cyfyngedig
Dywedodd Emma King fod yn rhaid iddi hi "frwydro" i sicrhau bod y dyn a laddodd ei chwaer ddim yn cael dod o fewn pum milltir i'w chartref.
Cafodd Julie Butcher ei llofruddio yn 2005 gan ei chyn-ŵr Richard Butcher yn eu cartref yn Chiseldon, Wiltshire.
Cafodd Butcher ei garcharu am 13 mlynedd, ond dywedodd Ms King iddo symud yn ôl i'r un ardal ar ôl cael ei ryddhau.
"Rydyn ni mewn gwirionedd wedi cael ein carcharu ein hunain nawr mewn ardal fach, a byddwn yn edrych dros ein hysgwyddau am byth," meddai Ms King.
Dywedodd y dylai parthau gwahardd fod yn lleiafswm o 50 milltir (80km) ac y dylid eu cyflwyno wrth ddedfrydu er mwyn osgoi trawma pellach i deuluoedd dioddefwyr.