/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyhoeddi enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2025

enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og eleniFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Arwana Swtan a'r Sgodyn Od a Cymry Balch Ifanc yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2025

  • Cyhoeddwyd

Arwana Swtan a'r Sgodyn Od gan Angie Roberts a Dyfan Roberts a Cymry Balch Ifanc gan awduron amrywiol yw enillwyr gwobrau Tir na n-Og eleni.

Mae'r gwobrau blynyddol - sy'n cael eu trefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru gyda nawdd gan CILIP Cymru Wales - yn dathlu'r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Y beirniaid ar y ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni oedd Sioned Dafydd, Rhys Dilwyn Jenkins a Lleucu Non.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam fore Mawrth.

Arwana Swtan a'r Sgodyn Od yn 'chwa o awyr iach'

Mae Arwana Swtan a'r Sgodyn Od, enillydd y categori cynradd, gan Angie Roberts a Dyfan Roberts yn nofel fer sy'n adrodd hanes Arwana Swtan, ei thaid a'r fôr-forwyn Swigi Dwgong yng nghanol storm fawr yng Nghaernarfon.

Dywedodd Angie Roberts eu bod "ar ben ein digon".

"Mae'r newyddion gwych yma'n mynd i roi'r hyder i mi ddal ati i sgwennu'r holl straeon sydd yn fy mhen."

Yn ôl y beirniaid, "fe allech gredu eich bod yn darllen hen chwedl forwrol, ond mae'r stori hon yn fodern a chyfoes gyda chymeriadau lliwgar a digwyddiadau rhyfeddol".

Cafodd y nofel ei darlunio gan Efa Dyfan (Gwasg y Bwthyn).

Cymry Balch Ifanc yn 'lyfr pwysig i bawb'

Blodeugerdd bersonol a gonest o straeon 13 o gyfranwyr LHDTCRA+ gyda gwybodaeth ffeithiol am Pride Cymru yw Cymry Balch Ifanc.

Nod y gyfrol yw gwella dealltwriaeth a hybu empathi tuag at y gymuned LHDTCRA+.

Dywedodd Llŷr Titus, un o olygyddion y gyfrol: "Mewn cyfnod lle ydan ni'n gweld ymosodiadau o bob cwr ar hawliau pobl LHDTCRA+ mae ennill gwobr Tir na n-Og a chael dathlu hynny ar faes gŵyl fel yr Urdd, sydd yn ddigamsyniol yn ei chefnogaeth i'n cymuned ni, yn gadarnhad bod gan bawb yr hawl i fod yn falch o bwy ydyn nhw.

"Fel un o olygyddion y gyfrol mae hi'n fraint aruthrol ennill ond hefyd fel golygydd dyma bwysleisio mai straeon y bobl ifanc o fewn cloriau'r gyfrol ydy'r peth pwysicaf ac mai nhw ddylai gael y sylw heddiw."

Mae'r beirniaid yn dweud ei bod hi'n "bwysig bod llyfr fel hwn ar gael yn Gymraeg" a'i fod yn gyfle i bobl "ddod i adnabod ein hunain ac i adnabod pawb arall".

Cynefin, Cymru a'r Byd a LlanddafadFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cynefin, Cymru a'r Byd a Llanddafad oedd enillwyr gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr

Enillwyr gwobrau Dewis y Darllenwyr

Yn yr un seremoni ar faes yr Eisteddfod cafodd gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr eu cyhoeddi.

Mae'r rhain yn wobrau sydd wedi'u dewis o'r llyfrau ar y rhestr fer ym mhob categori gan blant a phobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir nan-Og.

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd yw Llanddafad gan Gareth Evans-Jones, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Y Lolfa)

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd yw Cynefin, Cymru a'r Byd gan Dafydd Watcyn Williams (Gwasg Carreg Gwalch)