/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyngor Ceredigion 'ddim wedi asesu effaith cau ysgol ar y Gymraeg'

Ysgol Llangwyryfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Ceredigion wedi ymgynghori ar gau pedair ysgol yn y sir - yn eu plith ysgol Llangwyryfon

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Ceredigion wedi'u beirniadu am beidio asesu'n gywir yr effaith o gau ysgol wledig yn y sir ar y Gymraeg.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mewn llythyr at gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon nad oedd y cyngor sir wedi cydymffurfio â safonau’r iaith cyn cynnal ymgynghoriad ar gau'r ysgol.

Yn yr ohebiaeth rhwng y cyngor a swyddfa'r comisiynydd, a gafodd ei rhyddhau ddydd Gwener, mae'r cyngor yn cydnabod nad ydyn nhw wedi cydymffurfio â'u cyfrifoldebau o dan safonau'r iaith.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cael cais am sylw.

Protestwyr tu allan i Neuadd Cyngor CeredigionFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr tu allan i bencadlys Cyngor Ceredigion ym mis Medi

Mae'r ohebiaeth hefyd yn dangos bod y cyngor yn ymrwymo i fynd ati “fel mater o flaenoriaeth” i ddiwygio’r ddogfen Asesiad Effaith ar y Gymraeg, cyhoeddi'r fersiwn newydd ar eu gwefan, a chynnig rhagor o amser ymateb i'r ymgynghoriad.

Gan fod y cyngor yn cydnabod eu bai, dywed y comisiynydd nad oes angen cynnal ymchwiliad i’r achos.

Mae Ysgol Llangwyryfon yn un o dair ysgol wledig yng ngogledd Ceredigion sy’n destun ymgynghoriadau ar eu cau - mae Ysgol Craig-yr-Wylfa ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn hefyd yn wynebu bygythiadau i’w dyfodol.

Mae disgwyl y bydd ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd yn agor yn hwyrach yn y mis.

Meleri Willliams - rhiant
Disgrifiad o’r llun,

"Dylsai cau ysgol wledig Gymraeg greef fel hon ddim bod ar eu rhestr nhw yn y lle gyntaf," meddai Meleri Williams

Yn ôl Meleri Williams, sydd â dau o blant yn ysgol Llangwyryfon, ddylai'r cyngor ddim bwrw 'mlaen gyda'r cynnig i gau'r ysgol.

"Fi'n credu bod e'n bryd iddyn nhw i ddechre meddwl ydyn nhw'n neud eu gwaith yn iawn yn y lle cyntaf i ddeud y gwir achos mae'r safiad ma' nhw'n honni eu bod am safio wrth gau'r ysgol yma'n chwerthinllyd i gymharu' a'r effaith bydde'n ga;l ar y gymuned yma, y plant - ma'r plant yn barod yn betrusgar - ma'r rhieni'n grac.

"Dylse cau ysgol wledig Gymraeg gref fel hon ddim bod ar eu rhestr nhw yn y lle cyntaf."

Ffred Ffransis
Disgrifiad o’r llun,

"Mae [y cyngor] wedi penderfynu bod nhw am gau y pedair ysgol ac wedyn ticio bocsys," meddai Ffred Ffransis

Dywedodd Ffred Ffransis, o Gymdeithas yr Iaith: "Mae Cyngor Ceredigion eisoes yn wynebu cwyn nad ydyn nhw wedi dilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion o ran chwilio'r holl opsiynau cyn penderfynu cau ysgol.

"Ond nawr mae gyda ni'r gŵyn newydd 'ma. Dydyn nhw ddim wedi gwneud asesiad iawn o effaith cau'r ysgol ar yr iaith Gymraeg

"Mae'n nodweddiadol o'r brys sydd wedi bod. Mae nhw wedi penderfynu bod nhw am gau y pedair ysgol ac wedyn ticio bocsys i ddangos bod nhw wedi ystyried posibiliadau eraill - 'di ticio bocs 'effaith ar y Gymraeg', dweud fod y plant yn mynd i ysgol Gymraeg arall felly dim effaith ar y Gymraeg.

"Ond wrth gwrs, fel mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud, 'di nhw heb ystyried bod Llangwyryfon yn ysgol naturiol Gymraeg, Cymraeg yw iaith iard yr ysgol - mae'n un o'r llefydd pwysicaf i ni gadw.

"Mae peryg hefyd bydde rhieni y mewnfudwyr - os yw eu gwaith yn Aberystwyth - bydde nhw ddim yn mynd at ysgol gyfagos, bydde nhw'n mynd â'r plant i ysgol Saesneg yn nhre Aberystwyth."

'Angen asesiad llawn o'r effaith'

O ran y camau y dylai'r cyngor gymryd, dywedodd Mr Ffransis: "Nid ar chwarae bach 'da chi'n amharu ar addysg plant a 'da chi'n amddifadu cymuned o'i hysgol.

"Yr hyn ddylen nhw wneud yn yr achos yma ydi gwneud asesiad llawn o be fydd effaith cau Ysgol Llangwyryfon ar y Gymraeg yn yr ardal, beth yw effaith ar addysg y plant, beth yw effaith integreiddio mewnfudwyr mewn ysgol ar hyn o bryd lle mae'r Gymraeg yn iaith yr iard chwarae, a be fydd yr effaith ar y gymuned">