Arestio tri ar ôl ymosodiad honedig ar fachgen ysgol

Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel un "difrifol" gan bennaeth Ysgol Uwchradd Llyswyry
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad honedig ar fachgen ysgol yng Nghasnewydd.
Ddydd Mercher cafodd fideo ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn ymddangos fel petai grŵp o blant yn ymosod ar ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llyswyry, tra'i fod yn cael ei ddal gan ddyn.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi arestio dyn 30 oed a bachgen 13 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad, sy'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r ddau yn cael eu hamau o achosi anaf corfforol, tra bo'r dyn hefyd yn cael ei amau o achosi cythrwfl (affray).
Dywedodd y llu nos Iau bod bachgen 11 oed o Gasnewydd hefyd wedi'i arestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi cythrwfl.
'Digwyddiad difrifol'
Fe wnaeth pennaeth Ysgol Uwchradd Llyswyry, Julia Fitzgerald, anfon neges at rieni ddydd Mercher yn dweud bod "digwyddiad difrifol" wedi bod ar ôl ysgol.
Dywedodd bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.
Mae'r heddlu wedi adnabod y person ifanc yn y fideo a gafodd ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae swyddogion yn "parhau i'w gefnogi wrth i'n hymholiadau barhau," meddai'r prif gwnstabl cynorthwyol, Vicki Townsend.
Mewn diweddariad nos Iau, dywedodd fod "angen i bawb ystyried y naws a'r iaith y maent yn eu defnyddio wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol".
"Byddem yn annog pobl i beidio â dyfalu nac adnabod unrhyw un ar-lein y maen nhw'n credu sy'n gysylltiedig gan fod hwn yn ymchwiliad byw," meddai.