/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Anodd cael ffydd' yn Undeb Rygbi Cymru sy'n 'ofn penderfyniadau anodd'

Ron Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ron Jones yw cyfarwyddwr a chyn-gadeirydd y Scarlets

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr a chyn-gadeirydd y Scarlets wedi dweud ei bod hi'n "anodd cael ffydd" yn arweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru gan eu bod "ofn gwneud penderfyniadau anodd".

Dywedodd Ron Jones wrth raglen Newyddion S4C fod Undeb Rygbi Cymru yn "canolbwyntio gormod ar dîm Cymru" a'u bod yn amharod i wynebu'r realiti ariannol o orfod lleihau nifer y rhanbarthau.

Fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru bod cytundeb ar y gorwel gyda'r pedwar rhanbarth fydd yn cynyddu'r arian sydd ar gael iddyn nhw ac yn sicrhau eu dyfodol.

Gatland 'wedi colli cefnogaeth y chwaraewyr'

Ers dros chwarter canrif, mae'r dyn busnes Ron Jones, a sefydlodd gwmni teledu Tinopolis yn Llanelli, hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd clwb a rhanbarth rygbi'r Scarlets.

Wedi i Warren Gatland adael ei swydd fel prif hyfforddwr tîm cenedlaethol y dynion ddydd Mawrth, mae Mr Jones wedi beirniadu'r arweinyddiaeth o fewn yr undeb.

"Mae mor drist na wnaeth yr undeb wneud y penderfyniad [i ddiswyddo Warren Gatland] yn gynharach a gweithredu er budd rygbi yng Nghymru."

Mae hefyd yn honni fod Warren Gatland "yn amlwg wedi colli cefnogaeth y chwaraewyr ers yr arolwg a wnaed cyn y Nadolig".

GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Warren Gatland adael ei swydd yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig

Ar ôl colli 14 gêm yn olynol, daeth ail gyfnod Gatland fel prif hyfforddwr i ben yr wythnos hon, hanner ffordd trwy bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond mae Undeb Rygbi Cymru yn mynnu iddyn nhw gynnal adolygiad trylwyr yn yr Hydref a chanfod na fyddai'r tîm yn elwa o Gatland yn gadael a'i fod yn teimlo fod ganddo rywbeth i'w gynnig o hyd i'r tîm.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Undeb Rygbi Cymru wedi wynebu heriau oddi ar y cae.

Ddwy flynedd yn ôl cafodd streic gan y chwaraewyr ei hatal ar y funud olaf cyn wynebu Lloegr, a daeth adolygiad annibynnol damniol i'r casgliad bod diwylliant rhywiaethol, misogynistaidd, hiliol a homoffobig o fewn yr undeb.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cafodd Abi Tierney ei phenodi'n brif weithredwr newydd, a daeth Richard Collier-Keywood yn gadeirydd newydd yn 2023.

'Anodd ymddiried yn yr Undeb'

Ond mae Mr Jones yn ddamniol o'u perfformiad hyd yma.

Dywedodd: "Mae'n rhaid cwestiynu sut allwch chi gymryd mor hir cyn i benderfyniadau gael eu gwneud a bod unrhyw welliannau i'w gweld yn unrhyw agwedd o rygbi Cymru">