/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Teyrnged i bennaeth 'eithriadol' ysgol gynradd yng Nghaerdydd

Ysgol Gymraeg Nant CaerauFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dylan Hughes yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Nant Caerau am dros 14 o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i bennaeth "eithriadol" yn dilyn ei farwolaeth.

Roedd Dylan Hughes yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Nant Caerau am dros 14 o flynyddoedd.

Dywedodd dirprwy bennaeth yr ysgol bod Mr Hughes wedi creu "hafan ddiogel i bob disgybl", ei fod yn "arweinydd eithriadol" ac yn "fentor i lawer ac yn ffrind i bawb".

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion ddydd Llun, 3 Mawrth, meddai'r ysgol mewn datganiad fore Iau.

'Angerddol dros addysg Gymraeg'

Dywedodd dirprwy bennaeth yr ysgol, Mrs Hughes Jones yn y datganiad: "Bu ei ymrwymiad i sicrhau lles pob aelod o gymuned yr ysgol a'i waith i feithrin y potensial ym mhob disgybl yn gadael olion na ellir eu disodli ar ein hysgol.

"Roedd ei gyfraniad tuag at addysg Gymraeg ar draws Caerdydd yn angerddol a bydd hwn yn parhau i effeithio ar y cyfleoedd i blant am flynyddoedd i ddod.

"Rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'w deulu a'i anwyliaid yn ystod yr amser anodd hwn. Byddwn yn anrhydeddu ei etifeddiaeth drwy barhau â'i weledigaeth ar gyfer yr ysgol a chefnogi ein gilydd fel cymuned."

Ychwanegodd y bydd cymorth ar gael i ddisgyblion yn yr ysgol pan fyddant yn dychwelyd.

"Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon at rieni ddydd Llun. Bydd manylion am y trefniadau coffa yn cael eu rhannu maes o law."

Pynciau cysylltiedig