/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Ateb y Galw: Mari Gwenllian

Mari GwenllianFfynhonnell y llun, Mefus
  • Cyhoeddwyd

Mari Gwenllian sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma.

Yn artist sy'n creu paentiadau haniaethol a lluniau o gyrff noeth, mae hi'n ceisio annog hunan-hyder ac ysbrydoli eraill gyda'i gwaith.

Mae hi hefyd yn canu gyda'r grŵp Sorela a'r criw cabaret, Cabarela.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Fy atgof iawn cyntaf yw derbyn ci bach ar fy mhenblwydd yn wyth.

Ar ôl dod adre o'r ysgol ac ymladd gyda Gwenno fy chwaer am y soffa gore yn y lownj, daeth Mam a Dad i ôl fi i fynd i weld beth oedd ar y patio.

O'n i wedi gofyn am rollerblades ar fy mhenblwydd; ar ôl blynyddoedd o ofyn am gi bach, erbyn hyn o'n i di rhoi lan ar ofyn. Es i mas i weld bocs mawr cardbord a meddwl 'od, pam bod bocs rollerblades mor fawr...? A pam bo nhw'n rhoi nhw i fi tri diwrnod cyn fy mhenblwydd">