/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn yn ddieuog ar ôl i ddau fabi gael eu canfod yn farw

Eglė Žilinskaitė a Žilvinas Ledovskis Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Žilvinas Ledovskis (dde) wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, tra bod Eglė Žilinskaitė wedi pledio'n euog i bedwar cyhuddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gael yn ddieuog o gyhuddiadau yn ymwneud â marwolaethau dau fabi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Heol Maes-y-felin ar stad Y Felin-wyllt yn y dref ym mis Tachwedd 2022 ble cafwyd hyd i gyrff y babanod.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fore Mawrth fod Gwasanaeth Erlyn y Goron (S) wedi penderfynu peidio cyflwyno tystiolaeth yn erbyn Žilvinas Ledovskis, 50, yn dilyn adolygiad o'r dystiolaeth.

Cafwyd Mr Ledovskis, o Abertawe, yn ddieuog gan y barnwr o ddau achos o gelu genedigaeth baban a dau gyhuddiad o atal claddedigaeth gyfreithiol a gweddus.

Mae Eglė Žilinskaitė, 31 oed o Gaerdydd, wedi pledio'n euog i ddau achos o gelu genedigaeth baban ac o ddau achos o atal claddedigaeth gyfreithiol a gweddus.

Bydd yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach.