Antur Waunfawr: Angen cefnogaeth wedi bil Yswiriant Gwladol uchel

Dywed Ellen Thirsk, Prif Weithredwr Antur Waunfawr, nad yw'r sefyllfa ariannol bresennol yn gynaliadwy
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Antur Waunfawr, Ellen Thirsk, wedi galw am gefnogaeth frys gan Lywodraeth y DU ar ôl cael gwybod y bydd y ganolfan yn derbyn bil yswiriant gwladol o dros £71,000.
Mae'r ganolfan, sy'n helpu pobl ag anableddau dysgu, yn dweud eu bod yn wynebu pwysau ariannol mawr.
Mae Aelod Arfon yn y Senedd, Sian Gwenllian hefyd yn pryderu ac yn dweud bod nifer o ganolfannau eraill sy'n helpu pobl fregus yn wynebu heriau ariannol tebyg.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn "cefnogi ein helusennau trwy gyfundrefn dreth arloesol, a llynedd yn unig roddwyd £6biliwn mewn cymorth i'r sector".

Her seiclo 40 milltir i ddathlu pen-blwydd deugain oed Antur Waunfawr
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Ellen Thirsk fod y broblem hon am gael "effaith sylweddol" ar y ganolfan a'r sector.
"Mae amdan mwy na ni - mae mudiadau ar draws Cymru, mudiadau cymunedol trydydd sector sy'n rhoi gwasanaethau hanfodol ac yn gwneud lot o waith ataliol [yn dioddef]," meddai
Dywedodd nad oes modd iddyn nhw godi mwy o dâl ar rieni am y gofal gan eu bod yn y sector gyhoeddus.
"Sut fedrwch chi feddwl fod hyn yn gynaliadwy? Dydi o ddim, 'da ni mewn her economaidd sylweddol yn barod," ychwanegodd.
'Dydi o ddim yn gwneud synnwyr'
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "derbyn bod yr esgid yn gwasgu a bod gwasanaethau iechyd yn hanfodol" ond "ar ddiwedd y dydd pam fod gofal cymdeithasol a gofal yn y gymuned... yn cael eu cosbi">