/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Saesneg yn brif iaith i Gymry Cymraeg ifanc ar-lein - adroddiad

Disgrifiad,

Pa iaith mae rai o bobl ifanc ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn ei siarad gyda'u ffrindiau ar-lein?

  • Cyhoeddwyd

Mae agweddau pobl ifanc at y Gymraeg yn galonogol, ond Saesneg yw'r brif iaith o bell ffordd ar-lein – hyd yn oed ymhlith Cymry Cymraeg, yn ôl adroddiad.

Mae mwyafrif helaeth o blant Cymru yn cyfathrebu'n bennaf drwy'r Saesneg ar y cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed pan maen nhw'n siarad gyda Chymry Cymraeg eraill.

Dyna un o ganfyddiadau adroddiad newydd i ddefnydd pobl ifanc o'r iaith.

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ganfod defnydd "cyfyngedig" o'r Gymraeg gan blant y tu allan i'r ysgol, ond eu bod nhw'n fwy tebygol o'i siarad mewn gweithgareddau fel chwaraeon.

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, ei fod yn "amlygu heriau sylweddol... [ond] hefyd yn adnabod cyfleoedd".

'Ddim yn hawdd siarad Cymraeg gyda ffrindiau'

Ond pa iaith mae rhai o'r bobl ifanc fu ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn siarad â'u ffrindiau?

Dywedodd Mathew o Ysgol Gyfun Llangefni ym Môn ei fod "fel arfer yn mixo Cymraeg a Saesneg pan yn siarad gyda ffrindiau yn yr ysgol".

Dywedodd ei fod yn "hoffi siarad Cymraeg ond dwi ddim yn cael lot o amser i gael siarad [Cymraeg] gyda fy ffrindiau".

Roedd Harri o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Sir Caerffili yn dweud mai Saesneg y mae ef yn siarad efo'i ffrindiau am mai dyna yw iaith cartref cynifer o'i gyfeillion.

Er mai Cymraeg y mae ef yn siarad adref dywedodd: "Ni ddim yn gweld unrhyw entertainment yn Gymraeg, maen nhw gyd yn Saesneg, felly dyw e ddim yn hawdd siarad Cymraeg gyda ffrindiau."

Dywed Cari Lovelock o Ynys Môn "ei bod hi'n bwysig bod ni fel pobl ifanc yn defnyddio'r iaith Gymraeg"
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cari Lovelock o Ynys Môn "ei bod hi'n bwysig bod ni fel pobl ifanc yn defnyddio'r iaith Gymraeg"

Roedd Cari Lovelock o Ynys Môn o'r farn ei bod hi'n "bwysig" bod y genhedlaeth iau yn defnyddio'r Gymraeg wrth gymdeithasu.

"Dwi'n defnyddio'r iaith Gymraeg achos dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod ni fel pobl ifanc yn defnyddio'r iaith Gymraeg achos ni 'di'r genhedlaeth nesaf sy'n mynd i hybu'r iaith a chadw hi'n fyw fel bo' ni'n cael pethau fel yr eisteddfod a dwi'n meddwl fod hynna yn rili pwysig."

I Cerys o Ysgol Gyfun Gwent Is-coed, Casnewydd, dywedodd ei bod fel arfer yn siarad "Saesneg ond wedyn dwi'n siarad Cymraeg gyda fy nheulu".

"Dwi'n meddwl achos ma' llwyth o fy ffrindiau yn mynd i ysgolion Saesneg, a rhai yn defnyddio Saesneg fel iaith, maen nhw fel arfer yn siarad achos mae teulu nhw a rhieni nhw ddim yn siarad Cymraeg," meddai.

"Os bydd mwy o lefydd bydden nhw'n gallu siarad Cymraeg, dwi'n meddwl bydd mwy yn siarad Cymraeg."

Agwedd 'gadarnhaol' at y Gymraeg

Cafodd 1,600 o blant a phobl ifanc – y rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 11 ac 16 oed – eu holi fel rhan o'r ymchwil ar gyfer adroddiad i Gomisiynydd y Gymraeg.

Ymhlith prif ganfyddiadau'r adroddiad oedd bod defnydd cyffredinol o'r Gymraeg gan blant a phobl ifanc y tu allan i'r ysgol yn "gyfyngedig".

Ond roedd plant yn fwy tebygol o ddefnyddio'r iaith mewn gweithgareddau chwaraeon, yn enwedig gyda hyfforddwyr ac arweinwyr.

Roedd eu hagweddau tuag at y Gymraeg hefyd ar y cyfan yn "gadarnhaol", yn enwedig ymhlith y rheiny oedd yn rhugl ac wedi dysgu'r iaith yn y cartref.

Ond ychydig iawn o ddefnydd sydd o'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r mwyafrif yn defnyddio Saesneg "oherwydd ei fod yn haws ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach".

Roedd tua 80% o'r rheiny ymatebodd i'r holiadur yn dweud eu bod yn defnyddio Saesneg bob tro neu fel arfer i gyfathrebu ar-lein, hyd yn oed gyda siaradwyr Cymraeg eraill.

Ond roedd siaradwyr rhugl yn fwy tebygol o gyfathrebu'n uniongyrchol drwy'r iaith, gyda hanner yn dweud eu bod nhw'n tecstio fel arfer yn y Gymraeg, neu'n defnyddio'r ddwy iaith yn hafal.

Roedd plant a phobl ifanc fwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg ar-lein i greu cynnwys, ac wrth ymateb neu rannu negeseuon gyda'u ffrindiau, yn enwedig ar WhatsApp.

Ar y llaw arall, roedd hyd yn oed 90% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn defnyddio Saesneg fel eu prif iaith ar TikTok.

Roedd bron i 90% o blant a phobl ifanc yn defnyddio Saesneg ar y cyfan wrth chwarae gemau, a chwilio neu wylio cynnwys ar-lein.

Ond fe wnaeth yr holiadur ganfod y byddai 41% yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy cyffredinol petai mwy o gyfleoedd i wneud hynny, a hynny'n codi i 63% ymhlith siaradwyr rhugl.

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

"Mae plant a phobl ifanc yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg," meddai Efa Gruffudd Jones

Nod yr ymchwil, meddai Comisiynydd y Gymraeg, oedd ceisio deall mwy am arferion ieithyddol plant a phobl ifanc.

"Mae plant a phobl ifanc yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith Gymraeg," meddai Efa Gruffudd Jones.

"Mae'r gwaith ymchwil eang hwn yn cynnig darlun i ni o sut mae pobl ifanc yn defnyddio'r Gymraeg."

Ychwanegodd: "Does dim dwywaith fod yr adroddiad yn amlygu heriau sylweddol, yn enwedig ym maes cyfryngau cymdeithasol.

"Ond mae hefyd yn adnabod cyfleoedd, ym maes chwaraeon er enghraifft, a byddaf yn blaenoriaethu creu a chryfhau partneriaethau strategol er mwyn datblygu'r cyfleoedd hynny ymhellach."

Yn siarad ar Dros Frecwast yn ddiweddarach, ychwanegodd bod y Gymraeg yn "gyfoethog" o ran adnoddau sydd ar gael ar-lein drwy'r iaith, ac felly un peth "yn sicr y dylwn ni wneud, yw rhoi gwybod i fwy o bobl bod modd defnyddio'r pethau yma drwy gyfrwng y Gymraeg".

"Os y'ch chi'n defnyddio'r apiau AI diweddara', gallwch chi siarad Cymraeg da'r apiau yma erbyn hyn, rhywbeth nad oedd yn wir efallai flwyddyn yn ôl.

"Felly yn sicr mae 'na waith addysgu i'w wneud, mae 'na waith codi hyder i'w wneud, gwaith rhannu gwybodaeth..."

'Mae lle i boeni'

Dydy hyn "ddim yn sioc," meddai'r Dr Cynog Prys, sy'n darlithio mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.

"Dwi'n meddwl bod 'na le i boeni, da ni eisiau'r Gymraeg gael ei defnyddio ym mhob un parth, ym mhob un maes yn y byd modern."

Dywedodd Dr Prys fod y Gymraeg yn "iaith fodern ar gyfer y byd cyfoes da ni'n rhan ohono fo".

"Dwi'n meddwl bod angen i ni gydnabod i raddau hefyd mae Saesneg ydy prif iaith y we, mae 'na lot o gynnwys allan yna'n Saesneg - a ma' bobl yn mynd i ddefnyddio a chael eu dylanwadu gan hwn," meddai.

"Felly dwi'n meddwl bod 'na le i ni drio meithrin rhagor o ddefnydd yn y maes yma, trio annog nhw - ella dim trio gorfodi nhw ond trio annog nhw a chreu amodau ffafriol i bobl ifanc allu mwynhau'r Gymraeg yn y parth digidol, boed o ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn meysydd fel chwarae gemau cyfrifiadurol."

Dywedodd Myfanwy Jones, cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, fod yr adroddiad yn dangos yr angen i blant gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r ysgol.

"Yn y mentrau rydym yn gyson yn chwilio am gyfleoedd pellach i ehangu ein gweithgareddau cymunedol er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol," meddai.