/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pryder am ddyfodol cerddoriaeth fel pwnc ysgol

Iwan Llewelyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerddoriaeth fel pwnc wedi mynd yn "israddol" yng Nghymru, yn ôl Iwan Llywelyn Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae angen trin cerddoriaeth fel pwnc yn ein hysgolion yn hytrach nag adloniant yn unig, yn ôl Cyfarwyddwr Perfformio Cerdd Prifysgol Bangor.

Mewn cyfweliad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, awgrymodd y pianydd Iwan Llywelyn Jones bod y pwnc wedi mynd yn "israddol yng Nghymru".

Daw ei sylwadau wrth i nifer boeni am ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru yn sgil toriadau i gyllideb y sector.

Awgrymodd Mr Jones hefyd y dylid ystyried llacio'r rheol iaith mewn rhai cystadlaethau canu yn yr Eisteddfod gan y byddai hynny'n "creu artistiaid mwy cyflawn".

Dros yr wythnosau diwethaf mae nifer o sefydliadau mawr fel yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi mynegi pryderon am effaith toriadau ar eu cyllidebau.

Mae Cwmni Opera Cymru hefyd wedi cyhoeddi nad ydyn nhw am fod yn perfformio yn Llandudno nag ym Mryste'r flwyddyn nesaf oherwydd problemau ariannol.

Yn ôl Iwan Llywelyn Jones, mae'r ffordd y mae'r celfyddydau yn cael eu dysgu yn yr ysgol yn ganolog i ddyfodol y sector yng Nghymru.

"Ydyn ni'n dysgu ein plant ni yn yr ysgolion i werthfawrogi cerddoriaeth, ydyn ni'n dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth i fod yn gerddorion cyflawn, yn artistiaid cyflawn ac yn ddawnswyr cyflawn ac yn y blaen">