Etholiad Senedd Cymru: Chwyldro arall ym Merthyr?

Sgwâr Penderyn oedd canolbwynt gwrthryfel y gweithwyr ym 1831
- Cyhoeddwyd
Mae gan Sgwâr Penderyn yng nghanol Merthyr Tudful hen hanes o wrthdystio, ymgyrchu, a newid gwleidyddol.
Wedi ei enwi ar ôl Dic Penderyn gafodd ei grogi'n dilyn gwrthryfel y gweithwyr yn 1831, honnir mai yma y cafodd y faner goch ei chwifio am y tro cyntaf i gynrhychioli'r dosbarth gweithiol.
Yna, yn 1900, yma y cyhoeddwyd bod Keir Hardie wedi ei ethol fel Aelod Seneddol Llafur cyntaf Cymru. Fe fyddai arweinydd cynta'r blaid hefyd.
Yn fwy diweddar gwelodd y sgwâr dorfeydd mawr yn ymgynnull ar gyfer rali gan arweinydd Llafur ar y pryd, Jeremy Corbyn, a gorymdaith annibyniaeth YesCymru.
A nawr, gydag etholiad Senedd Cymru ar y gorwel, mae'r sgwâr yn debygol unwaith eto o fod yn dyst i gystadlu brwd am gefnogaeth.

Daeth miloedd i orymdeithio dros annibyniaeth ym Merthyr yn 2019
Yn gadarnle traddodiadol i Lafur mae Merthyr yn symbol o lwyddiant digynsail y blaid yng Nghymru ers canrif a mwy.
"Ni gyd yn gwybod bod y blaid Lafur wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru o 1922 hyd heddiw ac mae hyn yn draddodiad radical sydd i fi yn deillio o'r ardaloedd diwydiannol yn ne Cymru ac yn enwedig o Ferthyr Tudful," meddai Dr Marion Loeffler o Brifysgol Caerdydd.
Ond ydy'r cyfnod hir yna o lwyddiant yn dirwyn i ben?
Wedi ennill pob etholiad i Fae Caerdydd ers dechrau datganoli mae'r arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu bod y blaid yn wynebu her go iawn gan Blaid Cymru a Reform i fod y blaid fwyaf yn y Senedd wedi'r etholiad fis Mai nesaf.

Yn 17 oed, bydd gan Catrin a Bethan bleidlais yn yr etholiad y flwyddyn nesaf
Yng nghanolfan Soar oddi ar y sgwâr roedd yna gyfle i gasglu barn ambell aelod o gynulleidfa rhaglen Hawl i Holi Radio Cymru.
Ac wrth drafod yr etholiad roedd gobeithion Reform yn bwnc a gododd dro ar ôl tro, er nad oedd llawer o gefnogaeth i'r blaid ymhlith yr etholwyr yma.
"Mae llawer ar y we ar y foment am Reform a Nigel Farage," meddai Bethan sy'n ddisgybl 17 oed yn Ysgol Rhydywaun.
"Dwi ddim yn cefnogi meddylfryd e a dyna beth fi'n gweld rhan fwya'r amser."
Dywedodd Gemma Marshall, sy'n dysgu ym Merthyr, ei bod hi'n disgwyl y bydd pethe'n "wahanol iawn blwyddyn nesa".
Tra'n gobeithio y bydd Plaid Cymru'n gwneud yn dda, mae hi'n "poeni" am Reform.
Er nad yw'n arfer cefnogi'r blaid Lafur, mae Llyr Evans yn ystyried gwneud hynny y flwyddyn nesaf achos "mae'n rhaid dewis rhywun sy'n mynd i gadw Reform allan".
Ond beth sydd wrth wraidd y twf ym mhoblogrwydd Reform?
"Mae pobl wedi danto," meddai Nia Barrar.
"Mae pobl wedi cael digon o bopeth: effaith Covid, effaith toriadau'r cynghorau lleol - dyw Llundain ddim yn rhoi digon o arian i Gymru."

Daeth Nigel Farage i Ferthyr i gyhoeddi polisïau ei blaid ar gyfer etholiad cyffredinol 2024
Bydd Reform yn sicr yn disgwyl cipio seddi'n yr ardal hon y flwyddyn nesaf, ar ôl targedu'r etholaeth yn y gorffennol.
I ganolfan gymunedol ar ystad y Gurnos y daeth Nigel Farage i gyhoeddi polisïau ei blaid cyn yr etholiad cyffredinol y llynedd.
Fe wnaeth ei ymweliad greu argraff ar Steve Collins oedd yn y gynulleidfa y diwrnod hwnnw.
"Ro'n i'n meddwl bod e'n eitha da - mae angen newid," meddai.
"Mae Llafur yn union fel y Ceidwadwyr yn fy marn i - llawer o addo ond dim byd yn digwydd."
Cafodd Nigel Farage ei wahodd i Ferthyr gan berchennog y ganolfan Daljit Singh.
"Mae'n rhaid i rywun ddweud e fel ag y mae, a dwi'n credu bod Nigel yn gwneud hynny," meddai.
Daeth Reform yn ail ym Merthyr yn yr etholiad cyffredinol a bydd y blaid yn hyderus nawr o allu manteisio ar y drefn bleidleisio gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad i Senedd Cymru y flwyddyn nesaf, pan fydd chwe aelod yn cael eu hethol o bob etholaeth.

Dywed Steve Collins bod "angen newid" ym Merthyr
Yn ôl y cyn-ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Lafur Cymru, Cathy Owens, mae gan Lafur wersi i'w dysgu ym Merthyr ar ôl colli ei gafael ar y cyngor lleol yn 2017.
"Roedd Llafur wedi stopio ymgyrchu mewn ardaloedd fel Merthyr a dyna pam wnaethon ni weld annibynwyr yn cymryd y cyngor," meddai.
Tra bo Llafur bellach wedi ailgipio'r awenau ym Merthyr, mae'r profiad yn "dangos bod yn rhaid i chi ymgyrchu drwy'r amser i ddangos pam dylech chi gael eich hethol i fewn i bŵer," meddai Ms Owens.
Go brin y bydd unrhyw blaid yn cymryd y canlyniadau'n etholaeth newydd Pontypridd Cynon Merthyr yn ganiataol dros y flwyddyn nesaf.