'Dwi eisiau plant ond dwi'n ofni peidio cymryd y bilsen'

Weithiau mae symptomau PMDD Sera Mai Williams yn para pythefnos
- Cyhoeddwyd
Mae pob mis yn wahanol i Sera Mai Williams o Ddwygyfylchi yn Sir Conwy.
Yn aml mae'n teimlo'n isel, methu codi, ac mae'n anghofus am gyfnodau mawr o'r diwrnod. Weithiau mae'r symptomau yn para pythefnos.
Cafodd hi ddiagnosis o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif – neu PMDD – ddwy flynedd yn ôl.
Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar rhwng 6% ac 8% o fenywod yn ystod y mislif.
Roedd hi wedi teimlo bod rhywbeth o'i le am 12 mlynedd.
"O 'na rhywbeth jest ddim yn iawn ers i fi eni'r mab yn 2021," meddai.
"O'n i'n syffro gydag iselder, ond dim o hyd. O'n i'n gweld rhyw batrwm ac o'n i'n mynd yn ôl a 'mlaen at y GP.
"Dwi'n meddwl o'n i'n ffodus ac yn lwcus bod y doctor wedi dweud un diwrnod 'have you ever heard of PMDD">