'Torri addewid' i osod band eang cyflym Ysbyty Ifan
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion pentre yn Sir Conwy yn cyhuddo cwmni Openreach o dorri'u haddewid i osod band eang sydyn yno.
Fe gafodd Ysbyty Ifan addewid yn 2016 y byddan nhw'n cael cysylltiad cyflym fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru (Superfast Cymru), ond gyda'r rhan gyntaf o'r raglen honno wedi dod i ben ers diwedd 2017, does dim rhyngrwyd sydyn i bawb yno ar hyn o bryd.
Dywedodd Llyr Gruffydd AC bod angen "gofyn lle mae'r pres wedi mynd" yn dilyn yr addewid gwreiddiol.
Mae Openreach - sy'n dod dan ymbarel cwmni BT - yn dweud eu bod yn "gweithio'n galed i ddod o hyd i ddatrysiad".
Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn 2016, derbyniodd y gymuned addewidion y byddan nhw'n cael eu cysylltu fel rhan o Cyflymu Cymru.

Mae Llyr Gruffydd yn codi cwestiynau ynghylch blaenoriaethau'r cynllun band eang
Ond mewn gohebiaeth â swyddfa Mr Gruffydd ym mis Ebrill 2018, dywedodd aelod o staff Openreach ei bod hi'n "ddrwg gen i ddeall nad oes cysylltiad band eang ffibr yn y pentre er gwaethaf yr addewidion", gan ychwanegu bod "Ysbyty Ifan ddim mewn cynlluniau ar gyfer gwasanaeth ffibr".
Yn ôl pobl leol, mae cyflymder y cysylltiad gyda'r we yn medru amrywio'n fawr o un tŷ neu fusnes i'r llall yn y pentre.
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Gruffydd: "Ni'n gwybod bod y cynllun wedi dod i ben o ran Cyflymu Cymru - ond lle mae'r pres wedi mynd?
"Ydy'r arian unwaith eto yn cael ei flaenoriaethu i ardaloedd mwy poblog am mai'r ffocws ydy cysylltu cynifer o bobl ag sy'n bosib">