Gall ceir di-yrrwr 'ddod â dinasoedd cyfan i stop'
- Cyhoeddwyd

Gallai "dinasoedd cyfan ddod i stop" yn y dyfodol os yw hacwyr yn llwyddo i ymyrryd â cheir di-yrrwr, yn ôl un arbenigwr.
Dywedodd Dr Wolfgang Schuster o gwmni ymgynghori peirianyddol a dylunio Atkins wrth bwyllgor o ACau y byddai angen sicrhau bod "systemau diogel" er mwyn atal hynny rhag digwydd.
Clywodd y pwyllgor gan arbenigwr arall a ddywedodd y gallai teithio mewn ceir sy'n gyrru eu hunain gostio llai na mynd ar y bws yn y dyfodol.
Yn ôl William Sachiti o'r Academy of Robotics yn Aberystwyth fe allai cerbydau o'r fath fod yn fygythiad i drafnidiaeth cyhoeddus, a golygu bod llai o bobl yn berchen ar eu ceir eu hunain.
'Effeithio ar filoedd'
Yn ddiweddar fe wnaeth un Aelod Cynulliad awgrymu y dylai Abertawe geisio arwain y ffordd gyda thechnoleg newydd drwy ddefnyddio cerbydau di-yrrwr fel rhan o'i system drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd AS Llanelli, Lee Waters y gallai cerbydau heb yrrwr fynd â phobl o'u cartrefi i'w cyrchfannau, yn hytrach na theithwyr yn gorfod dibynnu ar fysiau a thramiau.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Mercher, dywedodd Dr Schuster fod risg cyfrifiadurol fodd bynnag os oedd "un man o fethiant, achos os allwch chi sleifio drwy sianel benodol, yn sydyn reit fe allwch chi effeithio ar filoedd o gerbydau".
Ond dywedodd Mr Sachiti, sylfaenydd cwmni sy'n creu cerbydau awtomataidd, y byddai ceir o'r fath "mor saff â banciau" erbyn iddyn nhw fod ar gael.

"Pam fyddech chi'n berchen car">