/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gwneud gwaith cartref mewn arhosfan achos diffyg band eang

Dydy rhai pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig ddim yn cael tegwch wrth wneud gwaith cartref oherwydd cysylltiadau ffôn a band eang gwael, yn ôl rhai o drigolion Dyffryn Conwy.

Mae un teulu o bentref Gwytherin yn gyrru i arosfa leol er mwyn gallu cysylltu â'r wê.

Yn aml, mae eu merch 12 oed yn methu gwneud ymchwil ar gyfer ei gwaith ysgol yn y tŷ oherwydd bod y cysylltiad band eang mor wan.

Dywedodd y Cynghorydd Garffild Lloyd Lewis sy'n gyfrifol am addysg ar Gyngor Sir Conwy bod yna do o bobl ifanc yn yr ardal sydd ddim yn cael yr un cyfle cyfartal a phlant eraill.