/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Newid rheolau cynllunio mastiau i 'wella signal ffôn'

  • Cyhoeddwyd
MastFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd rheolau cynllunio ynghylch mastiau ffôn yn newid er mwyn ceisio gwella signal ffonau symudol yng Nghymru.

Mae'r newid yn golygu na fydd angen mynd drwy'r broses gynllunio llawn i godi mast hyd at 25 metr o uchder.

15 metr ydy'r uchaf all gael ei godi ar hyn o bryd, ac mae'r newid yn dilyn symudiadau tebyg yn Lloegr a'r Alban.

Mae cwmnïau telegyfathrebu wedi bod yn galw am y newid ers tro.

Y gobaith yw y bydd y newid yn gwella gwasanaethau ffon gan y bydd y mastiau uwch yn gallu gyrru signalau'n bellach.

Fis diwethaf, dywedodd pwyllgor Cynulliad bod perygl y gallai Cymru ddisgyn ymhell y tu ôl i wledydd eraill y DU pan ddaw'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg symudol.

Yn rhan o'r un newidiadau, bydd yn haws i bobl osod mannau pweru ceir trydanol a rhoi i solar ar doeau tai.