Boris Johnson: Ymateb chwyrn gan ASau Cymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd Boris Johnson ei feirniadu am ei iaith yn ystod y ddadl nos Fercher
Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru, Stephen Crabb, wedi dweud fod sylwadau'r prif weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin nos Fercher wedi ei syfrdanu.
Dywedodd Mr Crabb bod dyletswydd ar Boris Johnson "i leihau lefel y gwenwyn yn ein gwleidyddiaeth".
Wrth iddo annerch y senedd fe wnaeth Mr Johnson ddefnyddio geiriau fel "surrender" a "betray".
Ond pan gafodd ei herio gan un AS Llafur a soniodd am lofruddiaeth yr AS Jo Cox, fe wnaeth Mr Johnson wfftio'i sylwadau fel "humbug".
'Dod ag undod i'r wlad'
Dywedodd AS Preseli Penfro, Mr Crabb wrth BBC Radio Wales: "Mae ganddo gefnogaeth gref ymysg ASau Ceidwadol am geisio datgloi Brexit.
"Ond mae ganddo ddyletswydd fel prif weinidog i geisio dod ag undod i'r wlad a lleihau lefel y gwenwyn yn ein gwleidyddiaeth.
"Fe gefais fy syfrdanu gan y modd yr ymatebodd i'r sylwadau am Jo Cox."

Dywedodd Stephen Crabb ei fod wedi'i syfrdanu gan sylwadau Boris Johnson
Daeth y ddadl danbaid yn y senedd ddiwrnod wedi i'r Goruchaf Lys farnu bod Mr Johnson wedi diddymu'r senedd yn anghyfreithlon.
Ar raglen Post Cyntaf fore Iau fe alwodd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith, arno i ymddiheuro am hynny.
"Neithiwr pan ofynnodd Paula Sherriff iddo i gymedroli ei iaith, roedd ei ymateb yn gwbl annerbyniol," meddai.
"I ddefnyddio'r gair 'humbug' yn hytrach na chamu 'nôl - pa fath o esiampl yw hynny">