/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gweithwyr â swyddi newydd yn 'disgyn trwy'r rhwyd'

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi'r cynllun saib o'r gwaith fis diwethaf

Mae pobl oedd i fod i ddechrau swyddi newydd yn ystod y pandemig coronafeirws yn "disgyn trwy'r rhwyd", yn ôl undeb.

Dywedodd TUC Cymru bod y rheolau newydd ar roi saib i bobl o'u gwaith yn golygu y gallai nifer "fechan ond sylweddol" o bobl fynd yn "amddifad".

Fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi y gallai busnesau wneud cais am grant gwerth 80% o gyflogau gweithwyr, ond dyw hynny ddim yn cynnwys gweithwyr ddechreuodd eu swyddi ar ôl 28 Chwefror.

Dywedodd y Trysorlys fod "amrywiaeth o gefnogaeth" i bobl sydd ddim yn rhan o'r cynllun hwnnw.

'Dim opsiynau'

Fe wnaeth Tara Golding o Abertawe adael ei swydd gyda chwmni sinema ar 5 Mawrth er mwyn dechrau swydd newydd gyda chwmni aur.

"Pythefnos yn unig wedi i mi ddechrau'r swydd newydd daeth y lockdown i rym, ac fe ddywedodd y cwmni eu bod yn cau," meddai.

Ychwanegodd nad yw'r cwmni yn gallu ei rhoi ar y cynllun saib o'r gwaith am nad oedd hi'n gweithio iddyn nhw cyn 28 Chwefror.

"Does gen i ddim opsiynau - mae fy ngwariant yn aros yr un peth ond s'gen i ddim incwm," meddai.

"Rydw i wedi cael cyngor i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ond dyw hynny ddim yn talu am hanner yr arian sy'n mynd allan - mae'n hunllef."

Tara GoldingFfynhonnell y llun, Tara Golding
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tara Golding bod y sefyllfa yn "hunllef"

Mae Glyn Morgan, 58 o Abertyleri ym Mlaenau Gwent, mewn sefyllfa debyg, wedi iddo ddechrau swydd newydd yn y diwydiant rasio ceffylau ddechrau Mawrth.

Dywedodd y cwmni y byddai'n cael ei roi ar y cynllun saib o'r gwaith, cyn iddyn nhw sylweddoli nad oedd yn gymwys.

"Mae'n sefyllfa anodd. Rydw i wedi bod trwy amseroedd caled yn y gorffennol, ond yn ariannol dydw i ddim wedi wynebu unrhyw beth fel hyn o'r blaen," meddai.

"Does dim arian yn dod mewn a dim gobaith y byddai'n cael unrhyw beth yn y dyfodol chwaith.

"Beth ydw i fod i'w wneud pan mae'r arian yn rhedeg mas">