/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Achos llofruddiaeth: Cadw dyn o Gasnewydd yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Kelly Pitt
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth teulu Kelly Pitt ei disgrifio fel 'enaid prydferth, ac yn berson hyfryd'

Mae dyn 25 oed o Gasnewydd wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio menyw yn y ddinas.

Cafwyd hyd i Kelly Pitt, 44 oed, yn anymwybodol yn ei chartref ardal Sandalwood Court yng Nghasnewydd ar ddydd Gwener 12 Mai.

Fe ymddangosodd Lewis Bush o flaen gwrandawiad rhagarweiniol yn Llys y Goron Caerdydd fore Iau.

Ni wnaed cais am fechnïaeth ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ym mis Mehefin.

Ar ôl marwolaeth Ms Pitt fe wnaeth ei theulu ryddhau teyrnged yn dweud ei bod yn wyres, merch, chwaer, mam, a mam-gu hoffus.

"Roedd hi'n enaid prydferth, ac yn berson hyfryd ar y tu mewn a'r tu allan," meddai'r deyrnged.

Pynciau cysylltiedig