Trafferthion S4C yn 'arfogi pobl sydd am waed y sianel'
- Cyhoeddwyd

Dywed Bedwyr Rees, cyfarwyddwr cwmni Rondo, fod S4C yn "drysor"
Mae cyfarwyddwr cwmni teledu annibynnol blaenllaw yn dweud fod yr anghydfod cyhoeddus yn S4C yn "arfogi" pobl sydd "am waed" y sianel.
Yn ôl Bedwyr Rees, cyfarwyddwr cwmni Rondo, mae yna "ddyfodol ffyniannus i S4C," a hynny "er bod unrhyw anfodlonrwydd yn achosi ansicrwydd".
Dywedodd wrth raglen Post Prynhawn ei bod hi'n bwysig camu'n ôl o'r sefyllfa bresennol am eiliad a sylweddoli "be 'di'r trysor sydd gynnon ni ar ein dwylo".
Daw ei sylwadau wedi i gyn-brif weithredwr y sianel, Siân Doyle, a'r cyn-bennaeth cynnwys, Llinos Griffin-Williams gael eu diswyddo ddiwedd 2023.
Mae'r ddwy wedi dweud bod eu diswyddiadau yn annheg.
"Fy mhoen i ydy, wrth i ni chwarae hyn i gyd allan yn gyhoeddus mai'r hyn 'dan ni'n ei 'neud ydy arfogi ymhellach y rhai sy'n hogi cyllyll am waed S4C ac am annibyniaeth S4C," meddai Mr Rees.
Ychwanegodd Bedwyr Rees bod S4C yn "rhywbeth sy'n annwyl iawn, iawn i'r gynulleidfa" a bod yna nifer o bobl o fewn y diwydiant yn gweithio'n ddiflino i sicrhau dyfodol y sianel.
"Dwi wedi siarad â nifer iawn o bobl yn ystod y Nadolig ac yn y tafarndai ac ar lawr gwlad - mae nifer o bobl wedi dod ata'i i siarad am gynnwys S4C gan ofyn: 'Be ti'n feddwl o hwn. Be ti'n feddwl o'r llall">