/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cadeirydd S4C yn cyrraedd y Senedd i roi tystiolaeth

Mae cadeirydd S4C, Rhodri Williams yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor diwylliant y Senedd ddydd Iau am y trafferthion sydd wedi wynebu S4C dros y misoedd diwethaf.

Mae tymor y cadeirydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ond nid yw galwad y Pwyllgor Materion Cymreig yn manylu a ydyn nhw'n awyddus i weld Mr Williams yn gadael yn syth ynteu ar ddiwedd ei dymor.

Wrth roi tystiolaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd y byddai'n "hapus iawn" i barhau yn ei swydd ac fe awgrymodd nad oes bwriad ganddo i gamu o'r neilltu.

Wrth gyrraedd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Iau, fe wrthododd Mr Williams ateb pan ofynnwyd iddo a fyddai'n ymddiswyddo.