/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Casnewydd: Apêl am dystion wedi marwolaeth dyn 83 oed

  • Cyhoeddwyd
Stow Park CrescentFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am dystion wedi marwolaeth dyn 83 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ddydd Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stow Park Crescent am 12:50 ar 19 Ionawr, a bu'r Ambiwlans Awyr yno hefyd.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng un car - Hyundai i20 lliw arian - a cherddwr.

Cafodd gyrrwr y car a'r cerddwr eu cludo i'r ysbyty am driniaeth, ond bu farw'r cerddwr - dyn 83 oed o Gasnewydd - yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad.

Pynciau cysylltiedig