/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Jak Jones yn cyrraedd rownd cyn-derfynol Snwcer y Byd

Mae Jak Jones wedi cyrraedd rownd cyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn theatr y Crucible, Sheffield.

Roedd chwe Chymro yn rhan o'r gystadleuaeth ar y cychwyn, ond Jak Jones o Gwmbrân yw'r unig un ar ôl, ac yn rhan o'r pedwar olaf.

Er nad yw Jak Jones wedi cael y tymor gorau hyd yma, fe esboniodd Catrin Heledd fod gan Jones "record eithaf da yn y Crucible."

"Na'th e gyrraedd yr wyth olaf y tro cyntaf iddo gyrraedd y Crucible llynedd".

Mae Jak Jones yn wynebu Stuart Bingham, pencampwr 2015.