Beti George yn sgwrsio gydag Aled Lewis - cynllunydd a saer dodrefn. Beti George chats to Aled Lewis - designer and furniture maker.
Aled Lewis yw gwestai Beti George.
Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain.
Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da.
Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben.
Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio.