Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.
Wrth i Her Anferth Aled i Plant Mewn Angen 2024 agosau, mae Aled yn cael cyfle i ddod i adnabod y llwybr a'i bobl ychydig yn well.
Pwysigrwydd Elgwys Clynnog i'r pererinion sy'n cael sylw y Parchedig Rosie Dymond; tra bod y Parchedig Rhun Gwynedd ap Robert yn rhannu rhywfaint o hanes plwyf Aberdaron gydag Aled.
Haf Meredydd sy'n sgwrsio am fywyd gwyllt Ynys Enlli; ac mae Aled yn holi Mari Huws, Warden Ynys Enlli am ei bywyd dydd i ddydd ar yr ynys.