/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Nid gorfodi addysg Gymraeg ar bawb sydd orau i'r iaith - Drakeford

M DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bil y Gymraeg ac Addysg o dan ofal Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd

Nid gorfodi addysg cyfrwng Cymraeg ar bob plentyn sydd orau i'r iaith yn y tymor hir, yn ôl y gwleidydd yn Senedd Cymru sy'n gyfrifol am y Gymraeg.

Roedd Mark Drakeford yn siarad ddiwrnod ar ôl cymeradwyo Bil y Gymraeg ac Addysg, sy'n "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid a'r Gymraeg nad yw'n cytuno â nod Cymdeithas yr Iaith sef y dylai pob plentyn yng Nghymru gael addysg gwbl Gymraeg.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru fore Mercher dywedodd Mr Drakeford ei fod yn benderfyniad i'r rhiant a'r plentyn, ac nad gorfodaeth yw'r ffordd orau i symud ymlaen.

"Nid lan i'r llywodraeth yw e i 'neud penderfyniadau fel yna ar ran rhieni a dwi eisiau perswadio fwy o rieni i ddefnyddio addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ond ar ddiwedd y dydd dewis rhieni a phlentyn yw e... [nid addysg Gymraeg i bawb] yw'r ffordd orau i symud ymlaen," meddai.

Dywedodd Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith eu bod yn "gwbl glir mai'r nod yw addysg Gymraeg i bawb, ac rydyn ni'n siomedig nad yw'n gwleidyddion wedi dilyn y trywydd yma".

Ym mis Chwefror eleni daeth sawl un ynghyd mewn rali yng Nghaerdydd i alw ar y Llywodraeth i gryfhau bil y Gymraeg ac Addysg.

Mae tua 23% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Uchelgais strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfran y grwpiau blwyddyn sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2030/31 a 40% erbyn 2050.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith roedd y Bil "cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i Lywodraeth Cymru roi strategaeth at ei gilydd fel bod pob athro yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg".

Mae'r Bil yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion, gan gynnwys isafswm o addysg Gymraeg sydd i'w ddarparu gan ysgolion, sy'n cynnwys addysgu'r Gymraeg fel pwnc yn ogystal ag addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y tri yw "Prif Iaith – Cymraeg" (80%), "Dwy Iaith" (50%) , a "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" (10%).

Bydd hefyd yn sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddarparu addysg drochi ddwys yn y Gymraeg ledled Cymru, er mwyn "helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu eu sgiliau".

'Canolbwyntio ar be' allwn ni 'neud'

Pan ofynnwyd i Mr Drakeford am ei safbwynt ar gynlluniau fel sydd yng Ngwynedd i wneud y Gymraeg yn brif iaith addysg pob ysgol yn y sir yn y dyfodol, dywedodd bod hynny "lan iddyn nhw".

"Lan i'r awdurdodau lleol a phobl leol yw e ac mae Gwynedd yn ymgynghori gyda'r bobl leol am eu cynlluniau nhw", meddai.

"Os mae'r bobl leol isie symud yna, wel lan iddyn nhw yw e.

"Y cwestiwn oeddech chi yn rhoi i fi, os oedd e'n wir i'r llywodraeth ddweud hynny am Gymru gyfan a dwi ddim yn meddwl mai hwnna yw'r ffordd gorau, lan i bobl leol ac awdurdodau lleol yw e."

Ychwanegodd: "Mae'r bil yn canolbwyntio ar y pethau allwn ni 'neud i helpu ysgolion Saesneg i droi mas bobl ar ôl fwy na degawd o ddysgu Cymraeg mewn ffordd lle maen nhw hefyd yn gallu siarad yr iaith a defnyddio'r iaith bob dydd.

"Wrth gwrs ni'n cytuno am bwysigrwydd addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ond hefyd mae'n bwysig i ni os ni'n mynd i gyrraedd at y pwynt ble ma' miliwn o siaradwyr 'da ni, bydd rhaid i ni droi mas plentyn o'r ysgolion Saesneg sy'n hyderus yn yr iaith hefyd."

Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw'r systemau i berswadio rhieni i ddewis addysg Gymraeg ddim yn gweithio" meddai Meirion Prys Jones

Dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, ei fod yn croesawu'r Bil am ei fod yn "bwysig, amserol, ac mae'n plethu gyda'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg".

"Mae'n gosod yn eu lle strwythurau sydd ddim wedi bod gyda ni ers i'r Senedd gael ei sefydlu".

Ond rhybuddiodd bod "diffyg cynnydd llwyr ers 10 mlynedd yn y ganran o blant sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg", sef tua 23%.

"Felly ar hyn o bryd dyw'r systemau i berswadio rhieni i ddewis addysg Gymraeg ddim yn gweithio."

Rhybuddiodd ei bod yn "bosibl na fydd llawer yn newid. Mae angen rhywbeth sydd yn gyrru hwn ymlaen. Mae angen strategaeth gliriach".