Y teulu Gladstone a Chymru

Cyn-Brif Weinidog Prydain, William Gladstone, ei wraig, Catherine, a'i wyres, Dorothy Drew
- Cyhoeddwyd
Mae William Gladstone yn cael ei ystyried fel un o Brif Weinidogion enwocaf y Deyrnas Unedig.
Roedd yn Brif Weinidog ar bedwar achlysur; 1868-74, 1880-85, yn 1866, a rhwng 1892-94. Pan adawodd Downing Street am y tro olaf roedd yn 84 mlwydd oed - y Prif Weinidog hynaf erioed.
Ond mae gan y teulu Gladstone gysylltiadau cryf â Chymru, ac yn benodol ardal y gogledd-ddwyrain.

William Gladstone (1809-1898)
Cafodd William Ewart Gladstone ei eni yn Lerpwl yn 1809, ond roedd ei rieni'n Albanwyr.
Roedd tad William, Syr John Gladstone, hefyd yn Aelod Seneddol, ond i'r blaid Geidwadol. Ceidwadwr oedd William hefyd nes iddo ymuno â'r Rhyddfrydwyr yn 1859.
Yn ardal Leith ar gyrion Caeredin cafodd Syr John ei eni, yn 1764, ac mae'n debyg mai fo oedd y dyn a ddaeth ag arian mawr i'r teulu.
Mae'n ffigwr dadleuol heddiw oherwydd roedd yn ddyn busnes a wnaeth llawer o'i gyfoeth o'r diwydiant caethwasiaeth.
Roedd yn berchen ar dros 2,500 o gaethweision yn Jamaica ac ar hyd arfordir gogleddol De America.
Pan benderfynodd Llywodraeth Prydain i atal pobl rhag bod yn berchen ar gaethweision fe gafodd Syr John £106,000 mewn iawndal, a oedd yn swm anferthol ar y pryd.
Priodi â Chymraes
Yn 1839 fe briododd William Gladstone â Catherine Glynne, Cymraes o Sir Fflint.
Roedd y teulu Glynne yn un o deuluoedd mwyaf cyfoethog a dylanwadol gogledd Cymru. Roedd Catherine yn ferch i Stephen Glynne 8fed Barwnig, a bu iddo farw pan oedd ond yn ddyn ifanc, 35 oed, a Catherine ond yn dair blwydd oed.
O ganlyniad i farwolaeth ei thad fe etifeddodd Catherine, ei chwaer, a'i dau frawd, Castell Newydd Penarlâg, sef cartref y teulu Glynne ers cenedlaethau.
Catherine oedd y trydydd o bedwar o blant; ei brodyr Stephen a Henry'n hŷn na hi, a'i chwaer, Mary, yn iau.

Catherine Gladstone, y Gymraes a briododd William Gladstone
Mae'n debyg mai drwy ei brawd, Stephen 9fed Barwnig, y gwnaeth Catherine gwrdd â William Gladstone.
Roedd Stephen yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Y Fflint, yn gyn-ddisgybl yn Eton a Phrifysgol Rhydychen, ac roedd ei wleidyddiaeth yn dra gwahanol i Gladstone. Er hyn roedd y ddau ar delerau da iawn.
Priododd Catherine a William Gladstone yng Nghastell Newydd Penarlâg ym mis Gorffennaf, 1839.

Castell Penarlâg, sydd ar ochr de-ddwyrain pentref Penarlâg
Yn fuan wedi i'r ddau deulu uno mewn priodas fe ddaeth John Gladstone i'r adwy a chynnig cymorth i brawd Catherine.
Er ei fod yn wleidydd profiadol, nid oedd gwleidyddiaeth o ddiddordeb mawr i Stephen Glynne - roedd yn hoff o gerddoriaeth a'r celfyddydau'n gyffredinol, a phensaernïaeth eglwysi a strwythurau crefyddol.
Penderfynodd Stephen fuddsoddi mewn gweithfeydd haearn, ond fe brofodd hyn yn fethiant llwyr. O ganlyniad roedd ganddo ddyledion mawr ac felly fe wnaeth tad William, Syr John Gladstone, ei gefnogi'n ariannol.
Yr unig fodd i Stephen gadw ei eiddo oedd i werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref Castell Newydd Penarlâg gyda William a Catherine, a daeth y cwpl yno i fyw.

Moethusrwydd Castell Penarlâg, cartref y teuluoedd Glynne a Gladstone
Rhwng 1840 a 1854 cafodd William a Catherine wyth o blant; William, Agnes, Stephen, Catherine, Mary, Helen, Henry a Herbert. Ganwyd tri o'r plant (William, Mary a Henry) yng ngogledd Cymru.
Llyfrgell Gladstone
Un o nodweddion mwyaf adnabyddus Castell Newydd Penarlâg yw Llyfrgell Gladstone, y llyfrgell breswyl fwyaf yng ngwledydd Prydain.
Dechreuodd y gwaith o lenwi'r llyfrgell yn 1894 a blwyddyn yn ddiweddarach roedd wedi ei hagor. Yn ôl y sôn fe wnaeth Gladstone, a oedd yn 85 mlwydd oed, gario miloedd o lyfrau ar olwynion o'i gartref i'r llyfrgell newydd rhyw filltir i ffwrdd, gyda help gan ei blant.
Mae dros 250,000 o lyfrau yn rhan o'r casgliad, a bellach mae 'na gaffi, bwyty, a lle i bobl aros dros nos. Mae gan y llyfrgell 26 o stafelloedd ac mae'n adeilad rhestredig Gradd I.

Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg heddiw
Bu farw William Gladstone yn y castell yn 1898, ac fe gafodd y castell ei roi yn enw ei ŵyr (William) plentyn ei fab hynaf, William. Roedd tair cenhedlaeth yn rhannu'r un enw, William Gladstone, a'r tri'n Aelodau Seneddol.
Er i William Glynne Charles Gladstone gael ei eni a'i fagu yng Nghastell Penarlâg, bu'n Aelod Seneddol yn Yr Alban gan mai o'r Alban y deuai teulu ei fam.
Ond bu farw William Glynne Charles Gladstone, ŵyr y Prif Weinidog enwog yn y Rhyfel Byd Cyntaf, mewn brwydr yn Laventie pan gafodd ei saethu gan sniper.
Cafodd ei roi i orffwys yn Ffrainc, ond yn dilyn caniatâd gan y Brenin Siôr V cludwyd ei gorff yn ôl i Gymru a chafodd ei gladdu eto, y tro hwn yn Eglwys Sant Deiniol ym Mhenarlâg.

Prif Weinidog Seland Newydd, Richard John Seddon, yn ymweld â Chastell Penarlâg yn 1897, blwyddyn cyn marwolaeth Gladstone
Mae Castell Penarlâg yn parhau i fod yn nwylo'r teulu Gladstone. Charlie Gladstone yw enw'r perchennog heddiw, ac mae'n byw yn y castell ble ddaeth ei hen, hen daid i fyw at ei hen, hen nain.
Mae Charlie yn awdur, ddyn busnes, ac yn ymwneud llawer ag elusennau. Fe ddysgodd Charlie am gysylltiadau ei hen, hen, hen daid (John Gladstone) â chaethwasiaeth yn ddiweddar ac fe ddywedodd fod ganddo gywilydd o'r ffaith, a'i fod yn destun embaras mawr iddo.
Dywed Charlie ei fod eisiau cywiro pethau yn sgil ymddygiad ei gyndeidiau, ac mae wedi cysylltu â dros 100 o ddisgynyddion eraill sydd wedi elwa o arian dynion a oedd berchen caethweision.
Heddiw mae Castell Penarlâg yn atyniad twristiaeth poblogaidd, gyda miloedd yn mynd yno i weld y llyfrgell yn arbennig.
Mae'r ystâd yn tystio undod teulu dylanwadol o Gymru a theulu pŵerus â'i gwreiddiau yn Yr Alban, ac mae'r dylanwad y teuluoedd hynny'n parhau hyd heddiw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024