Cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol newydd yng Nghaergybi

- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau fyddai'n gweld ysgol uwchradd newydd gwerth £66m yn cael ei chodi yng Nghaergybi.
Tra bod y cynllun yn ddibynnol ar sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru, y gobaith yw adeiladu ysgol uwchradd newydd yn ardal Kingsland, Caergybi.
Yn ôl adroddiad cafodd ei gyflwyno i Bwyllgor Gwaith Cyngor Môn fore Iau, mae adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi angen gwaith cynnal a chadw sylweddol yn y dyfodol, ac wedi gweld problemau gyda choncrit RAAC.
Cafodd tua 60% o'r ysgol ei chau am gyfnod rhwng 2023 a 2024 oherwydd pryderon am y math o goncrit oedd yn cael ei ddefnyddio'n aml rhwng y 1950au a'r 1990au, ond daeth i'r amlwg yn hwyrach ei fod yn "dueddol o ddymchwel heb rybudd".
Datblygiad 'cyffrous'
Y gobaith yw byddai'r adeilad ysgol newydd, wedi ei leoli ger Canolfan Hamdden Caergybi, yn darparu lle i tua 900 o ddisgyblion ac yn barod erbyn Medi 2030.
Clywodd y cyfarfod bod yr adeilad presennol yn wynebu costau cynnal a chadw o "hyd at £30m" dros y blynyddoedd i ddod, a bod concrit RAAC wedi ei ganfod "mewn sawl rhan o'r adeilad".
Dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard, bod y cynlluniau yn rai "cyffrous".
"Mae'r ysgol bresennol yn gwbl ddiogel, beth sydd o'n blaenau ni yma ydi yn hytrach na bod ni'n gwario'r arian yna ar gynnal a chadw ein bod ni'n buddsoddi yn ein pobl ifanc a'r adeilad newydd sbon fydd yn gaffaeliad i'r dref fwyaf poblog sydd gennym ni."

Dywed Gary Pritchard fod y cyngor yn awyddus i "fuddsoddi yn ein pobl ifanc a'r adeilad newydd sbon"
Ychwanegodd y Cynghorydd Robin Williams y byddai'n rhan o "adfywiad Caergybi" gyda datblygiadau fel statws porthladd rhydd yr ynys.
Mae'r cyngor eisoes wedi cefnogi bwriad i newid categori iaith yr ysgol, gyda'r disgwyl y bydd yn cynnig addysg Categori 3 (Cyfrwng Cymraeg) cyflawn, fel gweddill ysgolion uwchradd yr ynys, erbyn 2029.
Hyd yma mae'r ysgol wedi ei hystyried fel un Categori 2 (Dwyieithog) ac yn draddodiadol mae disgyblion sy'n dymuno cael addysg Gymraeg wedi mynychu Ysgol Uwchradd Bodedern, sydd 7.5 milltir i ffwrdd.
Y cam nesaf bydd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023