/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyhuddo dyn 20 oed o lofruddio dyn arall yng Nghaerdydd

Heol Trostre
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn, 20 oed, wedi cael ei chyhuddo o lofruddio dyn arall yn ardal Llaneirwg ger Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau o drywanu yn Heol Trostre tua 16:00 ddydd Mawrth.

Bu farw James Brogan, 43, o Laneirwg, ar ôl iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol.

Mae Georgie Tannetta, o Trowbridge, wedi'i gyhuddo o’i lofruddio a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig