/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Anafiadau difrifol i feiciwr wedi gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

Dunleavy DriveFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Grangetown bore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae beiciwr 72 oed wedi dioddef anafiadau a allai beryglu ei fywyd yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu'r De fod y gwrthdrawiad wedi digwydd o gwmpas 08:40 bore Sadwrn ar Dunleavy Drive yn Grangetown, Caerdydd, a'i fod yn ymwneud â beiciwr o'r Rhath a char.

Mae dyn 19 oed o Sili, Bro Morgannwg, a'i deithiwr, dynes 24 oed o Ddinas Powys, Bro Morgannwg, wedi'u harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i achos y gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw dystion neu'r rhai sydd â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig