Ysgol yn Sir Gâr ag wyth o blant yn ceisio denu disgyblion

Wyth o ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Gynradd Gymunedol Llansteffan
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol fach glan môr yn Sir Gaerfyrddin yn apelio am fwy o ddisgyblion er mwyn ceisio sicrhau ei dyfodol.
Dim ond wyth o ddisgyblion sydd bellach yn mynychu Ysgol Gynradd Gymunedol Llansteffan.
Yn ôl un rhiant, mae'r ysgol yn cynnig addysg "unigryw" i'r disgyblion, gyda phwyslais ar fod yn yr awyr agored.
Mae llywodraethwr yn yr ysgol wedi cyfaddef bod y sefyllfa yn "heriol" ond mae'n dweud bod yr ysgol yn allweddol bwysig i'r gymuned ac i addysg y plant.

Mae mab pedair oed Mared Lenny yn ddisgybl yn yr ysgol
Mae Mared Lenny, 41, yn fam i ddisgybl pedair oed yn yr ysgol - Lenny.
Mae hi'n dweud bod y gymuned yn gwneud ei gorau i ddenu mwy o ddisgyblion.
"Mae sefyllfa'r ysgol wedi bod yn reit fregus ers ychydig flynyddoedd - rhyw flwyddyn neu ddwy," meddai.
"Dyw hi ddim yn cau, ond mae gyda ni'r cyfle i drio cael mwy o ddisgyblion i ymuno.
"Beth sydd yn gwneud Ysgol Llansteffan yn un arbennig ac unigryw yw'r ffaith bod yr ardal ei hunan yn atyniadol, apelgar, ac mae'r ysgol yn gwneud y defnydd gorau o hynny trwy bwysleisio addysg ar natur a'r amgylchedd, ac mae'r plant ar y traeth yn cael gwersi.
"Maen nhw lan yn y castell yn cael gwersi neu maen nhw yn y goedwig.
"Mae hynny yn rhywbeth dyw pob ysgol ddim yn medru cynnig. Mae fe'n chwa o awyr iach.
"Maen nhw'n hapusach fel pobl fach. Maen nhw yn cael gwared ar lot o egni. Mae bod tu fas yn dda iawn i blant."

Mae fideo wedi'i greu er mwyn ceisio denu disgyblion newydd i'r ysgol, yn adlewyrchu'r pwyslais ar natur
Yn ôl Ms Lenny, mae dau riant yn yr ysgol wedi cynhyrchu fideo arbennig i'w hyrwyddo, yn y gobaith o ddenu mwy o ddisgyblion.
"Dangos y plant yn y dosbarth ac yn chwarae ar yr iard, a lawr ar y traeth. Maen nhw mas yn aml," meddai.
"Ni'n medru cynnig lle i blant newydd sydd eisiau ymuno gyda'r ysgol.
"Unrhyw riant sydd yn meddwl 'bydden ni'n lico i fy mhlentyn i gael addysg ychydig yn wahanol sydd yn rhoi mwy o bwyslais ar natur a'r amgylchedd', mae croeso iddyn nhw gysylltu am fwy o fanylion neu ddod yma am y dydd.
"Does dim bygythiad i gau ar hyn o bryd, ond mae'n gyfle i gael ychydig mwy o amser i gael mwy o blant i ymuno."
'Cymuned Llansteffan wedi newid'
Fel sawl ysgol wledig arall ar draws Cymru, mae Ysgol Llansteffan wedi gweld gostyngiad mawr yn niferoedd disgyblion.
Yn 2016, roedd 32 o ddisgyblion yno.

Mae Huw Iorwerth yn llywodraethwr ar ffederasiwn ysgolion Bancyfelin, Llangain a Llansteffan
Yn ôl Huw Iorwerth, llywodraethwr ar ffederasiwn ysgolion Llansteffan, Bancyfelin a Llangain, mae yna newidiadau demograffig trawiadol wedi bod mewn pentrefi fel Llansteffan.
"Mae'n heriol. Mae'r ysgol yn fach ac mae'r nifer wedi disgyn yn y ddwy, tair blynedd diwethaf, yn rhannol oherwydd natur y pentref," meddai.
"Mae'r gymuned wedi newid llawer dros y blynyddoedd.
"Dwi wedi byw yma am tynnu am hanner canrif, a dwi wedi gweld bod y gymuned wedi heneiddio ac mae llawer o dai wedi eu gosod fel tai haf.
"Mae yna ystâd o dai yn cael eu hadeiladu ar y funud. Mae yna ddwsin o dai newydd sydd yn dai cyngor, ac ni'n gobeithio y bydd rheiny yn dod â phlant i'r ysgol.
"Dwi wedi clywed rhywun yn dweud mai nid cynghorwyr sydd yn cael ysgolion, ond rhieni.
"Mae'n rhaid i ni ddangos bod yr ysgol hon yn ysgol sydd yn werth chweil danfon plentyn yma."

Mae yna newidiadau demograffig mawr wedi bod ym mhentref Llansteffan, a llai o deuluoedd ifanc yn symud i'r ardal
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ragdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn 2018, fel rhan o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd ysgol.
"Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion," meddai llefarydd.
"Cryfhawyd y Cod yn 2018, gan gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, sy'n golygu bod gweithdrefnau a gofynion ychwanegol yn berthnasol drwy gydol y broses statudol."

Mae nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi gostwng o 32 yn 2016 i wyth eleni
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sydd â chyfrifoldeb am addysg a'r Gymraeg, Glynog Davies, bod ysgolion y sir yn "wynebu nifer o heriau".
"Yn eu plith mae poblogaeth sy'n lleihau, cyfyngiadau ar y gyllideb, a mwy o alw am Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwasanaethau eraill," meddai.
"Yn y cyd-destun hwn cafodd Strategaeth ein Rhaglen Moderneiddio Addysg ei chymeradwyo gan y Cabinet ar 18 Tachwedd 2024.
"Dyma ein cynllun buddsoddi ac ad-drefnu strategol i drawsnewid darpariaeth ysgolion ledled Sir Gâr.
"Y nod yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n bodloni'r angen heddiw a'r angen yn y dyfodol am addysg sy'n canolbwyntio ar yr ysgol a'r gymuned."

Fe agorodd yr ysgol bresennol yn y 1950au
Mae Mared Lenny yn gobeithio y bydd cymuned Ysgol Llansteffan yn cael mwy o amser i geisio cadw drysau'r ysgol ar agor.
"Beth yw pentref heb ysgol, heb blant?
"Mae'n drist achos unwaith mae ysgol yn mynd mewn pentrefi fel hyn, dyw nhw ddim yn dod nôl.
"A dyna pam ni yn trio yn galed i gael mwy o blant i ymuno ac i gryfhau'r ysgol, fel bod y dyfodol yn edrych bach yn well iddyn nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023