Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Daeth y glaw yn ei ôl ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd 2025, ond felly hefyd y torfeydd yn eu miloedd.
Dyma ambell lun o'r golygfeydd ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro.

Y teulu Hulse o'r Trallwng wedi llwyddo i gael gafael ar y ponshos gan Y Frigad Dân

Y bythol-boblogaidd sioe Cyw gyda channoedd o blant yn gwirioni'n llwyr

Cysgodi rhag y cawodydd

Belle o Ysgol y Strade a Daisy o Ysgol Llanharri, dwy o'r cystadleuwyr sy'n anelu am deitl Pobydd CogUrdd 2025

Tomos gyda Sbarc, masgot y Frigad Dân

Y gynulleidfa yn gwrando ar restr fer Tir na nOg

Lisa ac Ela sy'n gweithio yn Siop Mistar Urdd.
"Diwrnod prysur iawn ddoe. Pawb i weld yn mwynhau. Dim cotiau glaw yma ond digon o hoodies i gadw pawb yn gynnes." meddai Lisa

Criw Ysgol y Dderwen wrth eu bodd ar ôl dod yn drydydd yn y côr cerdd dant

Dyma Eluned, Joseff, Llywelyn a Eseia Grandis. Mae Eseia yn wreiddiol o Drefelin ym Mhatagonia, ac roedd o ac Eluned wedi cwrdd pan oedd hi draw yn y Wladfa yn gweithio fel athrawes Gymraeg.
Mae'r teulu bach wedi symud yn ôl i Gymru ers wyth mlynedd bellach, ac Eseia yn weinidog yn Llanelli.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl