/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Casnewydd: Adfer cyflenwad dŵr poeth a gwres i 900 o gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i waith atgyweirio'r pibellau yn ardal Dyffryn, Casnewydd bara tridiau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i waith atgyweirio'r pibellau yn ardal Dyffryn, Casnewydd bara tridiau

Mae tua 900 o gartrefi yng Nghasnewydd bellach â gwres a dŵr poeth wedi i broblem gyda phibellau yn gollwng gael ei thrwsio.

Cafodd y cyflenwad gwres a dŵr poeth ei droi i ffwrdd yn ardal Dyffryn y ddinas ddydd Mawrth ar gyfer gwaith atgyweirio.

Roedd disgwyl i'r gwaith bara am dri diwrnod, ond erbyn prynhawn Iau roedd y cyflenwad wedi dychwelyd.

Dywedodd Cartrefi Dinas Casnewydd y byddan nhw'n ad-dalu cwsmeriaid am "dreuliau rhesymol" i gynhesu eu cartrefi dros dro.

Ychwanegon y byddai cwsmeriaid yn derbyn taliad o £20 ar gyfer bob diwrnod nad oedd ganddyn nhw gyflenwad, a hynny os dderbynion nhw wresogydd dros dro gan y cwmni ai peidio.

"Ry'n ni'n gwybod bod mwy i'w wneud i wella gwytnwch y rhwydwaith, a byddwn ni'n parhau i weithio ar hyn," ychwanegodd llefarydd.

Pynciau cysylltiedig