/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth menyw

  • Cyhoeddwyd
Police tent at Sandalwood Court, Newport
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Sandalwood Court am 11:30 ar ddydd Gwener

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth menyw yn ninas Casnewydd ddydd Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Sandalwood Court am 11:30 ar ôl i'r fenyw, 44, gael ei chanfod yn anymwybodol.

Mae dyn 25 oed yn parhau yn y ddalfa ac nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar hyn o bryd.

Mae teulu'r fenyw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Virginia Davies: "Bydd swyddogion yn gwneud ymholiadau pellach ar yr adeg yma ac yn parhau yn yr ardal wrth i'r ymchwiliad mynd yn ei flaen.

"Mae'n bosib y byddwch yn gweld yr heddlu'n gweithredu yng Nghasnewydd, ond rydym yn gofyn i chi beidio pryderu.

"Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth siaradwch gyda ni os gwelwch yn dda."

Pynciau cysylltiedig