/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cymru'n cystadlu ym Mhencampwriaethau Hado'r Byd

HadoFfynhonnell y llun, Rhys Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Tîm cenedlaethol Hado Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ar 23 Mai bydd Pencampwriaeth Hado'r Byd yn cael ei chynnal yn Shanghai, China.

Mae Hado'n gamp gymharol newydd sy'n cyfuno technoleg â symudiadau corfforol. Mae'n gystadleuaeth realiti estynedig (AR) gyda'r cystadleuwyr yn gwisgo penwisg electronig.

Rhys Richardson yw Prif Swyddog Gweithredu E-Sports Cymru. E-Sports (Electronic Sports) yw'r enw ar gyfer ystod eang o gemau cyfrifiadurol sy'n cynnwys sawl disgyblaeth, boed hynny yn gemau corfforol neu ble mae'r chwaraewr yn symud fawr ddim.

Fel arfer mae E-Sports yn gemau ble mae unigolyn yn chwarae yn erbyn pobl eraill, yn hytrach na chyfrifiadur.

Mae Rhys hefyd yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ond ar hyn o bryd mae ef a'i bedwar cyd-chwaraewr yn canolbwyntio ar y cystadlu yn China.

Ar fore Gwener, 23 Mai, fe siaradodd Rhys Richardson gyda rhaglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru am y gamp, a gobeithion tîm Cymru yn China.

HadoFfynhonnell y llun, Rhys Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Y bechgyn ar y ffordd i China i gynrychioli Cymru

"Mae 'na ddau dîm o dri neu dau dîm o ddau, yn dibynnu ar y gystadleuaeth, yn wynebu ei gilydd", esboniai Rhys.

Mae'r timau yn gwisgo penwisg (headsets) ac yn trio taro ei gilydd gyda pheli yn y byd realiti estynedig - does dim peli go iawn yn eu dwylo. Mae'r chwaraewyr hefyd yn defnyddio tariannau i amddiffyn eu hunain rhag peli'r gwrthwynebwyr.

Mae un tîm mewn coch a'r llall mewn glas. Mae prif chwaraewr ar bob ochr, gyda un person efo tarian a'r llall yn sniper (sef y chwaraewr gorau) a'r tactegydd sy'n gyfrifol am dynnu tarian y gwrthwynebwyr i lawr.

Roedd Rhys yn hapus i ddisgrifio'r gêm fel rhywfath o 'dodgeball digidol'.

Mae angen tîm o 5 i gystadlu mewn gornestau Hado, ac mae un o gyd-chwaraewyr Rhys yn gweithio yn yr un man ag ef - mae Ieuan James yn gweithio fel aelod staff cefnogol yn uned ymddygiad Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

HadoFfynhonnell y llun, Rhys Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Rhys a Ieuan, y chwarewyr Hado rhyngwladol o Ysgol Gwm Rhymni

Felly, sut wnaeth Rhys ddechrau yn y gamp a sut ffurfiwyd tîm cenedlaethol Cymru?

"'Nath UK Hado, sydd wedi ei lleoli yn Coventry, holi John Jackson, prif weithredwr E-Sports Cymru, os bydde modd i ni ddarparu tîm ar gyfer yr Euros mis Medi dwetha'.

"Doedd neb wedi clywed am y gamp felly 'nath rhai onyn ni roi ein henwau i lawr a nathon ni greu tîm o bump er mwyn cystadlu. Oedden ni'n chweched yn yr Euros, ac o ganlyniad yn ennill lle yng Nghwpan y Byd," meddai.

Tîm Hado CymruFfynhonnell y llun, Rhys Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Rhys, Daniel a Ieuan

Dywed Rhys ei fod yn cymryd dipyn o ymdrech iddo ef a'i gyd-chwaraewyr allu hyfforddi a chymryd rhan yn y gemau.

"Ni'n teithio bob penwythnos o Gaerdydd lan i Coventry, sydd yn 125 milltir, ac ni yno am saith awr, cyn teithio nôl. Coventry ydi'r ganolfan agosaf i ni, gyda'r llall yn Brighton.

"Does 'na ddim canolfan Hado yng Nghymru eto, ond y gobaith ar ôl Pencampwriaethau'r Byd yw bydd modd i ni gael bach o arian tuag at greu canolfan yma yng Nghymru."

Er bod y gêm mewn stafell arbennig dan do, a'r chwaraewyr yn gwisgo penwisg, dywed Rhys ei fod yn gamp corfforol.

"Ydi, yn enwedig i rywun sydd dros 40 oed a bach dros ei bwysau! Mae pob rownd yn 80 eiliad, ac mae'r 80 eiliad yna'n gyflym tu hwnt, gyda symudiadau corfforol – mae'n debyg i ymarferion HIIT (high intensity interval training)."

HadoFfynhonnell y llun, Rhys Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Y lleoliad yn Shanghai ble y bydd Rhys a'i dîm yn herio chwaraewyr Hado gorau'r byd

Mae Rhys a'i dîm yn Shanghai ac yn barod i'r cystadlu ddechrau.

"Ar y funud mai'n 30 gradd celsius ond yn bwrw glaw. Ni'n chwarae bore dydd Sadwrn (am bump y bore amser Cymru), ac mae'r 2v2 yn digwydd dydd Sul.

"Felly, bydd bach o ymarfer heno ac ymarfer ar gyfer y seremoni agoriadol fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y teledu yma yn China, a hefyd ar YouTube."

Mae Cymru mewn grŵp sy'n cynnwys Lloegr, yr UDA, Groeg a Malaysia, a bydden nhw hefyd yn wynebu Corea, ac mae Cymru'n anelu i orffen yn y pedwar uchaf yn y rownd ragbrofol a mynd ymlaen i'r rownd nesaf.

Pynciau cysylltiedig