O leiaf 24 mlynedd o garchar i ddyn 19 oed am lofruddio tad i saith

Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael dedfryd oes o garchar am lofruddio tad i saith yng Nghaerdydd.
Bu farw Colin Richards, 48 ac o ardal Grangetown, ar ôl iddo gael ei drywanu yn ardal Trelái y ddinas ym mis Ebrill y llynedd.
Roedd Corey Gauci, 19, wedi gwadu llofruddio Mr Richards ond ar ôl achos llys a barodd chwe wythnos, cafodd Gauci ei ganfod yn euog o lofruddiaeth ac achosi anhrefn dreisgar.
Fe fydd Gauci yn treulio isafswm o 24 mlynedd dan glo.
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2024
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Gauci wedi trywanu Mr Richards yn ei goes yn ystod yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan y barnwr fel "gwrthdaro oedd wedi ei drefnu" gan ddau grŵp oedd yn ffraeo ynglŷn â pherthynas oedd wedi dod i ben.
Fe wnaeth Colin Richards dorri ffenestri car a oedd yn eiddo i aelod o'r grŵp arall gyda mwrthwl.
Honnodd Gauci fod Mr Richards ar fin ymosod arno, ond gwrthod yr awgrym hwnnw wnaeth y barnwr gan ddweud fod Colin Richards yn ceisio ffoi.
Roedd Mr Richards wedi llwyddo i gyrraedd ei gerbyd pan gafodd ei drywanu, ond fe waedodd i farwolaeth o fewn munudau.

Cafwyd Corey Gauci (dde) yn euog o lofruddiaeth, ac mae James O'Driscoll (chwith) wedi ei gael yn euog o achosi anrhefn dreisgar a bod ag arf yn ei feddiant
Roedd oedi ar ddechrau'r gwrandawiad dedfrydu ddydd Gwener yn sgil aflonyddwch yn y galeri cyhoeddus.
Roedd Soraya Somersall, 44 a Noreen O'Driscoll, 29, wedi eu cael yn euog o gynorthwyo troseddwr, tra bod James O'Driscoll, 27, wedi ei ganfod yn euog o achosi anrhefn dreisgar a bod ag arf yn ei feddiant, tra bod Rebecca Ross, 44, hefyd wedi ei chael yn euog o gynorthwyo troseddwr ac o fod ag arf yn ei meddiant.
Cafodd Christian Morgan, 37, ei ganfod yn euog o fod ag arf yn ei feddiant hefyd, ond doedd y rheithgor methu dod i benderfyniad ar gyhuddiad arall o achosi anrhefn dreisgar.
Clywodd y llys fod yr achos yn ymwneud â ffrae rhwng Christian Morgan - ffrind i Colin Richards - a'r diffynyddion eraill.
Fe ddigwyddodd yr achos o drywanu yn dilyn gwrthdaro gyda grŵp oedd yn cario cyllyll.
Roedd Morgan wedi derbyn negeseuon bygythiol gan ei gyn-gariad, Noreen O'Driscoll, oedd wedi dweud bod "ei brodyr neu'r hogiau am ei sortio fo allan".
Clywodd y llys fod O'Driscoll a'r diffynyddion eraill wedi ymgasglu ger cartref Morgan gyda'r bwriad o achosi niwed iddo.
Roedd Gauci a James O'Driscoll yn cario cyllyll, roedd gan Colin Richards fwrthwl ac roedd gan Christian Morgan gyllell hefyd.

Clywodd y llys fod Gauci wedi ei gyhuddo yn y gorffennol o fygwth pobl gyda chyllell ar stryd fawr yng Nghaerdydd tra'n gwisgo gorchudd wyneb
Fe glywodd y rheithgor fod O'Driscoll wedi erlid Morgan gyda machete, tra bod Gauci wedi trywanu Colin Richards yn ei goes ar stryd gyfagos.
Wedi'r ymosodiad fe wnaeth Noreen O'Driscoll a Rebecca Ross daflu eu harfau mewn i ddraen, o dan gar ac mewn gwrych yn yr ardal. Dyw'r arf gafodd ei ddefnyddio i ladd Mr Richards dal heb ddod i'r amlwg.
Fe gafodd Gauci a James O'Dricoll wared ar eu dillad cyn ffoi o Gaerdydd. Cafodd y ddau eu harrestio dair wythnos yn ddiweddarach yn Stoke on Trent.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffiths wrth Gauci: "Fe wnes di drywanu Colin Richards pan nad oedd o'n peri unrhyw fygythiad i unrhyw un. Roedd yn ceisio ffoi."
Ychwanegodd ei fod yn "bendant" fod Gauci "wedi cario cyllell gyda'r bwriad o'i ddefnyddio".
Cafodd James O'Driscoll ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar a blwyddyn ar drwydded am achosi anhrefn dreisgar a bod ag arf yn ei feddiant.
Am gynorthwyo troseddwr, cafodd Soraya Somersall ei dedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis yn y carchar, tra bod Noreen O'Driscoll wedi ei dedfrydu i dair blynedd dan glo.
Cafodd Rebecca Ross ei charcharu am ddwy flynedd am gynorthwyo troseddwr a bod ag arf yn ei meddiant.
Cafodd Christian Morgan ddedfryd o 12 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am fod ag arf yn ei feddiant.
'Eu bwriad oedd defnyddio trais'
Dywedodd mam Colin Richards, Pamela Grant mewn datganiad dioddefwr fod ei mab yn "sensitif a gofalgar" o dan ei "gragen galed" a'i fod yn "bersonoliaeth fawr oedd yn gwneud pethau yn ei ffordd ei hun".
Yn ôl partner Mr Richards, Toni Marie Clayton, "mae gwybod na fydd ei blant yn adnabod eu tad yn torri fy nghalon".
Dywedodd Anthony Clarke o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd Corey Gauci a James O'Driscoll wedi arfogi eu hunain a'u bwriad oedd defnyddio trais wrth herio'r dynion.
"Roedd y tair menyw yn gwybod beth oedd wedi digwydd, ac fe wnaethant geisio cuddio tystiolaeth yn fwriadol.
"Mae chwifio cyllyll yn aml yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol, ac yn anffodus, yn yr achos hwn, fe arweiniodd hynny at golli bywyd.
"Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Colin, sydd wedi dioddef colled enfawr, ac yn cydymdeimlo â nhw."