Enwi'r bachgen bu farw mewn ffair yn y Barri ac arestio un

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Taha Soomro yn y fan a'r lle
- Cyhoeddwyd
Mae enw'r bachgen 16 oed bu farw mewn ffair ar Ynys y Barri wedi cael ei ddatgelu, ac mae un wedi cael ei arestio.
Mae Heddlu'r De yn parhau gyda'r ymchwiliad i farwolaeth Taha Soomro o Grangetown, Caerdydd, wnaeth ddioddef yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel "digwyddiad meddygol," yn y Parc Pleser ar Ynys y Barri.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Taha yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, a'i fod yn y ddalfa.
Dywedodd y Parc Pleser fod y newyddion am y farwolaeth yn drist iawn a bod eu tîm "wedi gwneud eu gorau i gynorthwyo'r gwasanaethau brys" ar y pryd.

Cafodd y llu eu galw i'r ffair ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, ychydig cyn 17:00
Dywedodd yr heddlu fod "ymholiadau helaeth" yn cael eu gwneud, er mwyn trio canfod achos ac amgylchiadau'r farwolaeth.
Cafodd y llu eu galw i'r ffair ym Mro Morgannwg ddydd Gwener, ychydig cyn 17:00.
Dywedodd llefarydd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un oedd yn y Parc Pleser yn ystod y digwyddiad, sydd â gwybodaeth, i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd yr heddlu fod "ymholiadau helaeth" yn cael eu gwneud, er mwyn trio canfod achos ac amgylchiadau'r farwolaeth
Mae ditectifs yn arbennig o awyddus i dderbyn unrhyw ffilmiau ffôn symudol.
Maen nhw hefyd yn "annog pobl i osgoi dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol," ac mae teulu Taha yn cael eu diweddaru gan swyddogion.
Dywedodd y Parc Pleser fod eu "meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu ar yr amser trist iawn hwn."
Mae'r parc yn parhau i fod ar agor ers 11:00 fore Sadwrn.