/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Miloedd yn angladd canwr The Alarm, Mike Peters

Angladd Mike Peters
Disgrifiad o’r llun,

Tua 2,000 o bobl yn gwylio'r seremoni ar sgrin fawr tu allan i'r eglwys

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull ar gyfer angladd Mike Peters o fand The Alarm ddydd Iau.

Bu farw'r cerddor fis diwethaf yn 66 oed, ar ôl byw gyda chanser am 30 mlynedd.

Roedd wedi cael diagnosis o lymffoma yn 1995, ac yn ddiweddarach fe gafodd lewcemia lymffosytig cronig ddwywaith.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Nyserth ger Prestatyn, lle cafodd Peters ei fagu.

Fe wnaeth Dafydd Iwan berfformio Yma o Hyd yn y seremoni, ac fe siaradodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth am gyfraniad Peters i ddiwylliant Cymreig.

Roedd Rhys Meirion - sy'n mynd trwy driniaeth canser ei hun - hefyd yn perfformio Anfonaf Angel.

Dywedodd ei weddw, Jules, cyn yr angladd ei bod hi'n gobeithio bydd y diwrnod yn "roc a rôl, fel gŵyl".

Mike Peters a'i wraig, Jules PetersFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mike Peters a Jules yn briod am 39 mlynedd

Cafodd marwolaeth Peters ei chadarnhau ar 29 Ebrill, ar ôl cael ei drin am lymffoma - ei salwch diweddaraf ar ôl tri degawd o driniaethau, recordio a theithio.

Ffurfiodd The Alarm ym 1981 gan werthu pum miliwn o albymau a chael 15 o ganeuon yn y 40 uchaf - gan gynnwys 68 Guns a Rain In The Summertime.

Dywedodd Jules fod ei gŵr wedi bod mor benderfynol o wella, nad oedd wedi cynllunio llawer ar gyfer angladd.

"Do'n i ddim yn licio codi'r peth yn aml, rhag ofn iddo fo feddwl 'mod i'n meddwl ei fod o'n mynd i farw," meddai.

"Gawson ni sgwrs ddoniol unwaith pan ddywedodd o 'os ti'n cario 'mlaen i siarad am angladdau, ti'n brifo'n hyder i'n fawr'. Felly nes i stopio."

Mike Peters, Jules Peters, Evan Peters a Dylan PetersFfynhonnell y llun, Jules Peters
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Evan a Dylan Peters berfformio yn angladd eu tad

Fe wnaeth tua 150 o bobl fynychu'r gwasanaeth yn Eglwys y Plwyf Santes Ffraid a Sant Cwyfan, gyda sgrin fawr yn dangos y gwasanaeth i dyrfaoedd tu allan.

Roedd meibion Peters hefyd yn perfformio cerddoriaeth yn y seremoni.

Dywedodd Jules bod y gwasanaeth yn adlewyrchu bywyd ei gŵr fel cerddor a berfformiodd ar draws y byd, gyda sêr fel Bob Dylan a Bono o U2.

Rhoddodd Jules deyrnged i'r holl gefnogwyr a ffrindiau sydd wedi rhoi cefnogaeth, rhannu atgofion a chynnig cydymdeimlad ers ei farwolaeth.

Diolchodd hefyd i drigolion Dyserth am eu dealltwriaeth, wrth i sawl ffordd gau ar gyfer yr angladd.

Ychwanegodd y bydd llwch Mike Peters yn cael ei gladdu yn y fynwent ar draws y ffordd i'r dafarn y mae hi'n rhedeg gyda'i meibion.

Disgrifiad,

Rhys Meirion yn cofio Mike Peters

Dywedodd y canwr Rhys Meirion ei fod wedi cyfarfod Mike Peters yn ystod agoriad uned canser yn Ysbyty Glan Clwyd dros 10 mlynedd yn ôl.

"Mae 'mond isio edrych ar faint o bobl sy 'di cael selfies hefo fo dros y blynyddoedd, oedd o byth yn gwrthod neb.

"Pan o'ch chi hefo Mike Peters o'ch chi'n teimlo'n well ar ôl bod yn ei gwmni o ac oeddech chi'n teimlo'n bwysig yn ei gwmni o, dim bwys pwy oeddech chi, oedd o'n rhoi amser i chi."

Wrth drafod y diagnosis am ganser a gafodd ei hun yn ddiweddar, ychwanegodd: "Ei bositifrwydd o, ddaru hynny bendant helpu fi yn yr wythnosau diwethaf 'ma achos oedd o byth yn rhoi fyny - mae 'na wers yn fan 'na i bob un o' ni."

Gwasanaeth angladdol Mike Peters

Fe wnaeth miloedd o bobl ganu "Going out in a blaze of glory" - llinell o gân enwog The Alarm 'Blaze of Glory' - wrth i recordiad o'r band chwarae tu allan i'r eglwys.

Fe ddilynodd recordiad emosiynol o Peters yn siarad am ei frwydr gyda chanser, gyda thua 2,000 o bobl yn gwylio'r sgrin fawr mewn distawrwydd.

Cafodd Jules a'r teulu eu cymeradwyo wrth iddyn nhw wneud ei ffordd i'r eglwys a, gyda rhosyn yn ei llaw, fe ddiolchodd Jules iddyn nhw.

Angladd Mike peters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth miloedd o bobl i Ddyserth dydd Iau i ddathlu bywyd Mike Peters

Dywedodd Lily Elsayed ei bod hi wedi teithio'r holl ffordd o New Jersey, UDA i ddod i angladd Mike Peters.

"Dwi wedi bod yn mynd i weld The Alarm ers dwi'n 17 oed," meddai.

"Es i i fy sioe gyntaf yn 1983 yn Efrog Newydd a dros y degawdau dwi wedi dod i Gymru ac wedi dod i nabod Mike, Jules a'r teulu."

Lily Elsayed
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lily Elsayed ei bod hi wedi teithio o New Jersey ar gyfer yr angladd

"Nes i deithio yma pan o'n i'n 17 oed. Nes i ddod i Brestatyn a ro'n i'n sefyll tu allan i dŷ Mike ar Noswyl Nadolig 1984 pan wnaeth ei fam ddod allan a gwahodd fi i mewn gyda'r teulu.

"Doedd Mike heb fod adref ers tipyn gan ei fod ar daith ond pan ddaeth o i mewn a gweld fi ar y soffa dywedodd ei fam wrtho fy mod i am dreulio'r Nadolig gyda nhw ac ers hynny, cyn iddi farw'n ddiweddar, roedd hi'n gyrru cerdyn Nadolig i fi bob blwyddyn i gofio am y diwrnod arbennig yna."

Steffan Huws
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steffan Huws fod Mike Peters "yn enghraifft i ni gyd sut ddylwn ni fyw ein bywydau"

Dywedodd Steffan Huws o ardal Caernarfon: "'Da ni wedi dod yma i roi teyrnged i Mike, 'da ni'n nabod nhw'n weddol. Mae fy ngwraig wedi bod yn gweithio efo nhw ers sawl blwyddyn ar yr elusen Love Hope Strength a 'da ni wedi dod i roi teyrnged i berson anhygoel.

"Y 30 mlynedd diwethaf mae Mike wedi profi fod o'n bosib byw bywyd llawn, hyfryd gyda'r agwedd bositif oedd genna fo."

Ychwanegodd: "'Sa fo 'di licio [bod heddiw yn ddathliad], cerddoriaeth oedd ei beth o a oedd o ddim yn hapusach na pan oedd o ar y llwyfan yn canu o flaen ei bobl fel petai, ac mae'r ffaith bod gymaint o bobl wedi dod yma yn dangos faint oedd o'n meddwl i bobl.

"Mae o'n berson sy'n dysgu ni sut i fyw i'r eitha'. 'Da ni'n cymryd pethau'n ganiataol weithia' ond ar ôl y newyddion gath o 30 mlynedd yn ôl, y ffordd mae o wedi delio hefo hynny yn enghraifft i ni gyd sut ddylwn ni fyw ein bywydau ni."