Dros filiwn wedi gwylio adroddwr yr Urdd yn ei ddagrau
Guto Bell a'i rieni sy'n sôn am yr ymateb i'w fuddugoliaeth yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae ymateb un o gystadleuwyr ifanc yr Urdd ar ôl iddo ennill cystadleuaeth lefaru wedi ei rannu dros filiwn o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Guto Bell, saith oed, o Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes yng Ngwynedd, oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth i blant blwyddyn 3 a 4.
Wrth iddo glywed ar lwyfan y Cyfrwy ei fod wedi ennill roedd e'n hynod o falch ac yna yn ei ddagrau.
Mae'r geiriau "O'n i reit flin am o'n i ddim isho dysgu adrodd, ond wedyn nesh i trio gora fi i Mam a dwi'n caru Mam fi lot" wedi toddi calonnau.
'Crio hapus'
Fore Mercher wrth siarad ar Dros Frecwast tra'n gwisgo ei fedal aur dywedodd Guto ei fod wrth ei fodd.
"O'dd o'n teimlad da i fi. O'n i'n crio hapus ond o'n i'n licio hynna," meddai.
Ychwanegodd ei fod wedi "ecseitio lot i fod yn gymaint o seren" ac nad oedd wedi disgwyl ennill.
Mae Guto bellach wedi creu cyfrif TikTok a'i fwriad yw creu mwy o fideos.

Roedd yna wobr hefyd i Caio - brawd Guto - yn yr Eisteddfod ddydd Llun
Mam Guto - Sara Angharad Bell - fu'n ei hyfforddi i adrodd ac wrth glywed ei eiriau o lwyfan rhannu'r canlyniadau meddai: "O'n i jyst yn meddwl am yr holl ymarferion i fod yn onest a dwi'n gwybod pam ei fod o'n crio achos 'dan ni wedi cael ymarferion eitha heriol ar brydiau lle mae Guto wedi bod yn ddigywilydd a ddim yn gwrando!
"Ond mae Guto yn fabi mam bob tamaid.
"O'n i o dan emosiwn. O'n i mor falch ohono fo."
Ychwanegodd ei bod wedi dotio ar ymateb y cyflwynydd Mari Lovgreen.
"'Se'r plant yma yn cael neb gwell i fod ar y lllwyfan na Mari Lovgreen efo nhw - o'dd o'n lyfli gweld ei hymateb hi i Guto hefyd."
Roedd yna wobr hefyd i Caio - brawd Guto - yn yr Eisteddfod ddydd Llun.
'Mwy poblogaidd na Dad'
Dyw bod ar y teledu ddim yn brofiad dieithr i dad Guto, Daniel Bell, gan ei fod yn rhan o'r gyfres Ysgol Ni, Y Moelwyn.
"Mae'n bwysig bod Guto yn enjoio'r profiad a fod petha' ddim yn mynd yn ormod iddo fo," meddai.
"Hyd yn hyn mae o wedi joio gweld ei hun ar y teledu a chlywed ei hun ar y radio.
"Mae Dad yn eitha cenfigennus bod tri munud yn yr Eisteddfod wedi 'neud o yn fwy poblogaidd na Dad mewn cyfres gyfan."
Dywedodd ei fam bod y profiad y mae'r Urdd yn ei roi i blant a phobl ifanc yn gwbl arbennig.
"Mae'r hyder y mae'r Urdd wedi gallu roid i Guto yn ei ail flwyddyn o gystadlu - mae o mor, mor werthfawr," meddai.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2022
Mae heddiw yn drydydd diwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ac hefyd yn ddiwrnod dathlu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg.