Elin Jones: Edrych ymlaen at fod yn aelod drygionus ar y meinciau cefn

Ym mis Ebrill fe gyhoeddodd Elin Jones ei bod yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Llywydd y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Senedd wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at fod yn "aelod drygionus ar y meinciau cefn" pan ddaw ei chyfnod yn y rôl i ben ymhen blwyddyn.
Pwysleisiodd Elin Jones AS nad creu trafferth i'r llywydd newydd yw'r nod ond i'r llywodraeth - pa bynnag blaid fydd yn llywodraethu - "hyd yn oed os yw e'n Plaid Cymru".
Wrth i'w chyfnod fel llywydd ddod i ben, ychwanegodd nad yw'n "awchu" i fod yn weinidog petai Plaid Cymru mewn grym.
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru dywedodd bod 10 mlynedd "yn fwy na digon i fi fel unigolyn i fod yn lywydd" a'i bod am "roi'r cyfle i rywun newydd arwain y Senedd ar ei newydd wedd".

Dywed Elin Jones ei bod yn hynod falch ei bod wedi llwyddo i sicrhau Senedd fwy yn ystod ei llywyddiaeth
Bydd nifer aelodau'r Senedd newydd yn cynyddu o 60 i 96 yn 2026.
Dywedodd Elin Jones ei bod yn hynod falch ei bod wedi llwyddo i sicrhau Senedd fwy yn ystod ei llywyddiaeth.
"Dwi'n gweld y cyfnod nesaf 'ma fel cyfnod o drosglwyddo - mae 'di cymryd 10 mlynedd bron i gyflawni y gwaith o ddiwygio seneddol o'n i wedi bod yn awyddus i'w wneud fel llywydd ers y cychwyn cyntaf yn 2016.
"Pan ges i fy ethol yn llywydd ro'n i wastad yn awyddus, nid just i 'neud y job o fod yn llywydd, ond i wneud rhywbeth o'r job ac felly o'dd comisiynu arbenigol a gadeiriwyd gan Laura McAllister i edrych ar faint y Senedd a'r prosesau etholiadol yn un o'r camau cyntaf i fi gymryd ac mae wedi cymryd agos i 10 mlynedd i wireddu y gwaith yn llawn.
"Mae wedi bod yn gyfnod hefyd o gyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed a newid enw'r Cynulliad yn Senedd."
Ychwanegodd: "Mae'n gyfnod nawr i rywun arall ddod mewn a rhoi stamp a rhoi cyfeiriad i'r dyfodol."
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Mai
Fe fydd Elin Jones yn ymgeisydd yn yr etholiad nesaf, ac os fydd yn cael ei hethol dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at fod yn aelod mainc gefn.
"Bydd hynny'n gyfle i fi 'neud y gwaith dwi wedi bod yn siarad tipyn amdano wrth gyfiawnhau cynyddu nifer yr aelodau i'r Senedd - sef i wneud y gwaith ar scrwtini o lywodraeth, scriwtini gwariant a scriwtini ar ddeddfwriaeth..."
Ychwanegodd y bydd cael mwy o aelodau yn dod â mwy o syniadau ac yn fodd "i 'neud mwy o waith ar ran pobl Cymru" ond bydd y disgwyliadau'n uwch.
'Dwi byth yn gweud na'
Wrth gael ei holi a fyddai'n dymuno cael swydd fel gweinidog petai Plaid Cymru mewn grym, dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth ond nad yw'n "awchu" am fod yn y cabinet.
"Dwi'n meddwl fod gan Blaid Cymru fwy na digon o bobl abl [i fod yn weinidogion] hebdda i ond dwi byth yn gweud na."
Ychwanegodd ei bod yn "edrych ymlaen" at gynrychioli pobl yn y Senedd, i fod yn aelod drygionus ar y meinciau cefn ac i fod yn "cyfrannu at rai o'r materion sydd wedi creu rywfaint o rwystredigaeth i fi yn ystod fy nghyfnod fel llywydd - materion dwi eisiau dweud rhywbeth arnyn nhw ond wedi methu oherwydd fy rôl fel llywydd".
Pwysleisiodd nad creu trafferth i'r llywydd newydd yw ei bwriad, ond i "bwy bynnag sydd mewn llywodraeth ar y pryd - hyd yn oed oes yw e'n Plaid Cymru!"