/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli: 'Camymddygiad difrifol'

  • Cyhoeddwyd
Peter FlorenceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Peter Florence ei urddo â CBE yn 2018 am ei wasanaeth i lenyddiaeth ac elusennau

Mae cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli wedi ymddiswyddo wedi canlyniad ymchwiliad annibynnol i honiadau o dorri rheolau bwlio ac aflonyddu.

Roedd Peter Florence - un o sylfaenwyr yr ŵyl - ar seibiant salwch o'i waith ers cael ei wahardd fis Hydref y llynedd wedi cwyn gan aelod o staff.

Mewn datganiad ddydd Llun, cadarnhaodd bwrdd yr ŵyl eu bod wedi cefnogi casgliadau ymchwiliad annibynnol i gŵyn mewnol bod "gweithredoedd Mr Florence yn gyfystyr â chamymddygiad difrifol".

Ychwanegodd y datganiad bod Mr Florence wedi "ymddiswyddo ar unwaith" wrth i'r bwrdd baratoi i ddod â'r mater i ben.

'Proses fanwl a helaeth'

Fe wnaeth y bwrdd "gadarnhau, yn unfrydol, gasgliadau ymchwiliad annibynnol ac adolygiad " mewn cysylltiad â chwyn mewnol yn erbyn Mr Florence ar 29 Gorffennaf.

Cafodd y penderfyniad hwnnw, medd y bwrdd, "gefnogaeth mwy na hanner tîm yr ŵyl Gymreig".

Gŵyl Y GelliFfynhonnell y llun, Gŵyl Y Gelli
Disgrifiad o’r llun,

Torfeydd yng Ngŵyl y Gelli cyn i'r pandemig amharu ar ddigwyddiadau torfol

Dywed datganiad y bwrdd: "Yn unol â Threfn Disgyblu'r Ŵyl a'r Drefn Bwlio ac Aflonyddu, dyfarnwyd bod gweithredoedd Mr Florence yn gyfystyr â chamymddygiad difrifol.

"Roedd y penderfyniad yn dilyn proses fanwl a helaeth, a ystyriodd dystiolaeth ategol sylweddol.

"Wrth i'r bwrdd gyfarfod i ddod â'r broses fewnol i ben, fe ymddiswyddodd Mr Florence ar unwaith.

"Bydd y Bwrdd nawr yn chwilio am arweinyddiaeth newydd ar gyfer y mudiad dielw byd-enwog."

Cyfarwyddwr Cyllid Gŵyl y Gelli, Tania Hudson sydd wedi rheoli gwaith staff yn y DU yn y 10 mis diwethaf, gan oruchwylio digwyddiadau digidol fis Rhagfyr y llynedd ac ym mis Mai.

Y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, Cristina Fuentes sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau Gŵyl y Gelli mewn gwledydd fel Mecsico, Sbaen a Pheriw.

Dywed y bwrdd bod dim newid i'w cynlluniau i gynnal gwyliau hybrid yn ystod y 12 mis nesaf.

Pynciau cysylltiedig